Dyddiadau
- 2024: 20 Medi, 5 Tachwedd
Manylion y cwrs
- Amser: 9:45am cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru, 10.00am - 12.30pm (20 Medi) | 13:45pm cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru, 14:00pm - 16:30pm (5 Tachwedd)
- Lleoliad: Coed Pella
- Hyfforddwr: Lucy Faithful - Stop It Now
- Gwasanaethau targed: Busnes a Thrawsnewid, Pobl Hŷn a Gwaith Cymdeithasol Ysbyty, Lles Cymunedol, Safonau Ansawdd, Tîm Anableddau, Tîm Pobl Ddiamddiffyn, Cymorth i Deuluoedd ac Ymyrraeth, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Plant sy’n Derbyn Gofal, Gofalwyr Maeth, Gwasanaethau a Gomisiynir (PIVs)
- Grŵp targed: Gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc
Nodau ac amcanion y cwrs
Nod y sesiwn 2 awr anffurfiol hwn yw codi ymwybyddiaeth a darparu gwybodaeth i weithwyr proffesiynol ar y ffeithiau yn ymwneud â cham-drin plant yn rhywiol a’n cyfrifoldeb i’w atal, gyda gwybodaeth wedi ei theilwra ar gyfer anghenion plant gydag anghenion ychwanegol. Mae’r sesiwn yn cynnwys:
- Deall ymddygiad y sawl sy’n cam-drin
- Sut a pham fod pobl yn cam-drin plant yn rhywiol
- Deall bod plant gydag anghenion ychwanegol yn fwy agored i niwed
- Y rhwystr i adnabod ymddygiad niweidiol a sut i'w oresgyn
- Y camau cadarnhaol y gall oedolion eu cymryd i atal cam-drin plant yn rhywiol o fewn capasiti proffesiynol drwy weithio gyda phlant a phobl ifanc neu deuluoedd
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.