Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cynnal Asesiadau Galluedd Meddyliol i Ddarparwyr


Summary (optional)
start content

Dyddiadau

  • 2024: 17 Hydref, 14 Tachwedd, 23 Ionawr

Manylion y cwrs

  • Amser: 13:45pm cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru, 14:00pm - 16:30pm
  • Lleoliad: Coed Pella
  • Hyfforddwr: Alys Jones - Uned Diogelu Conwy
  • Gwasanaethau targed: Gwasanaethau a Gomisiynir (PIVs)
  • Grŵp targed: Mae’r sesiynau ar gyfer darparwyr sy’n gweithio yn Sir Conwy gydag oedolion yn y maes gofal cymdeithasol a iechyd sydd angen cynnal asesiadau galluedd meddyliol

Nodau ac amcanion y cwrs

Nod: Nod y sesiwn yw dysgu mynychwyr sydd i ddefnyddio fframwaith cyfreithiol y Ddeddf Galluedd Meddyliol er mwyn arfer asesu galluedd unigolyn.  Mae’r sesiynau ar gyfer darparwyr sy’n gweithio yn Sir Conwy gydag oedolion yn y maes gofal cymdeithasol a iechyd.

Canlyniadau dysgu:

  • Trosolwg bras o’r fframwaith cyfreithiol a’r gyfraith achosion berthnasol.
  • Sgiliau ymarferol paratoi a chynnal Asesiadau Galluedd Meddyliol.
  • Deall a defnyddio’r asesiad gweithredol a diagnosteg.
  • Sgiliau triongli gwybodaeth er mwyn dadansoddi a dod i ganlyniadau ynglŷn â galluedd.
  • Defnyddio’r cysylltiad achosol.
  • Hwyluso trafodaeth ar gymhlethdodau Galluedd Meddyliol.
  • Cyfeirio at adnoddau defnyddiol.

Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu.  Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.

end content