Rwyf wedi cyflwyno fy nghais, pa mor hir fydd hi’n cymryd i mi gael fy nhaliad?
Oherwydd y nifer uchel iawn o ffurflenni ar-lein a gyflwynir, mae’r tîm Ardrethi yn gweithio’n galed iawn i brosesu ceisiadau cyn gynted ag sy’n bosibl. Pan fyddwch wedi cyflwyno eich ffurflen ar-lein, bydd y tîm ardrethi yn adolygu a ydych yn gymwys. Byddem yn ddiolchgar pe na baech yn cysylltu â’r tîm ardrethi dros y ffôn er mwyn iddynt ddelio â’ch gwybodaeth. Rydym yn deall yr heriau mawr sy’n wynebu busnesau yng Nghonwy. Rydym yn gweithio mor galed ag sy'n bosibl i sicrhau eich bod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch a byddwn yn gwneud eich taliad cyn gynted ag sy’n bosibl.
Rwyf wedi cyflwyno cais ond ni chefais e-bost / cydnabyddiaeth electronig
Os oes gennych gyfeirnod y cais (dechrau ag NN), mae hyn yn dilysu bod eich ffurflen ar-lein yn y system. Pe bai’r tîm ardrethi angen unrhyw wybodaeth bellach neu eglurhad, byddant yn cysylltu â chi wrth brosesu eich cais.
Os na chawsoch e-bost cydnabod gyda chyfeirnod, ceisiwch gyflwyno eich cyfeirnod Ardrethi Busnes eto. Os na fydd y system yn caniatáu hyn oherwydd bod y cyfeirnod Ardrethi wedi’i ddefnyddio eisoes, mae hyn yn golygu bod y ffurflen ar-lein wedi mynd trwodd a’r rheswm mwyaf tebygol am ddiffyg cydnabyddiaeth yw camgymeriad yn y manylion e-bost a nodwyd.
Rwyf wedi cyflwyno’r ffurflen ond rwyf wedi gwneud camgymeriad / llwytho’r ddogfen anghywir
Anfonwch e-bost grantiaubusnes@conwy.gov.uk i roi gwybod/cynnwys y wybodaeth gywir.
Dylid nodi eu cyfeirnod o gyflwyno’r cais am Grant yn y blwch Testun (Dechrau ag NDR).
Rwyf eisiau siarad â rhywun i wirio bod y cais rwyf wedi’i gyflwyno yn gywir / ei fod wedi cyrraedd
Oherwydd y galw uchel iawn am y Grant Ardrethi Busnes, nid yw’n bosibl i’r tîm Ardrethi gymryd galwadau. Byddem yn gofyn i chi fod yn amyneddgar; os oes gennych gyfeirnod (dechrau ag NN), mae hyn yn dilysu bod eich cais yn y system. Pe bai’r tîm ardrethi angen unrhyw wybodaeth bellach neu eglurhad, byddant yn cysylltu â chi wrth brosesu eich cais.
Nid oes gennyf fynediad i fy mil ardrethi na fy nghyfeirnod ardrethi
Sylwch, os na allwch gael mynediad i’ch hysbysiad ardrethi busnes, anfonwch e-bost at ymholiadau.trethi-annomestig@conwy.gov.uk gyda’ch manylion llawn gan gynnwys eich rhif ffôn. Yna caiff Hysbysiad Ardrethi Busnes arall ei gyhoeddi i chi.
Byddwn yn delio â’ch ymholiad cyn gynted ag sy’n bosibl, ond oherwydd nifer yr ymholiadau rydym yn delio â nhw ar hyn o bryd, gofynnwn i chi fod yn amyneddgar.
Nid oes gennyf eiddo, ond rwy’n fusnes bach. A oes modd i mi hawlio’r grant ardrethi busnes hwn?
Yn anffodus, nac oes. Mae’r grant hwn yn grant ardrethi busnes ar gyfer busnesau sydd ag eiddo. Mae rhagor o wybodaeth am y pecynnau cefnogaeth eraill sydd ar gael, i’w gweld ar wefan Busnes Cymru.
Mae gennyf fwy nag un busnes
Os oes gennych fwy nag un eiddo, llenwch ffurflen ar gyfer pob un.
Sylwch, ar gyfer y cynllun grant £10,000, mae’r cyfyngiad aml-eiddo sy’n berthnasol i Ryddhad Ardrethi Busnesau Bach hefyd yn berthnasol i’r grant hwn. Felly, bydd yr un talwr ardrethi yn cael y grant ar gyfer uchafswm o ddau eiddo ym mhob ardal awdurdod lleol yn unig.
Ni allaf lenwi’r ffurflen ar-lein a oes modd i mi gael copi caled o’r cais?
Gallwch ofyn am gopi electronig o’r ffurflen trwy anfon e-bost at busnes@conwy.gov.uk neu trwy ffonio 01492 574574. Os nad oes gennych gyfeiriad e-bost, gallwn drefnu bod ffurflen yn cael ei hanfon atoch – bydd angen eich enw a’r cyfeiriad ar gyfer yr eiddo busnes.
Ble allaf i ganfod fy Nghyfeirnod Ardrethi?
Eich Cyfeirnod Ardrethi yw’r cyfeirnod 9 digid a ddangosir fel ‘eich cyf’ ar eich hysbysiad ardrethi busnes a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Bydd hwn yr un fath â hysbysiadau’r flwyddyn flaenorol.
Nid yw’r ffurflen ar-lein yn derbyn fy nghyfeirnod Ardrethi, beth ddylwn ei wneud?
Mae nifer o eiddo mwy newydd yn dal i gael eu dilysu felly rydym wedi gofyn i fusnesau roi cynnig ar y rhif dros y dyddiau nesaf.
Nid yw’r ffurflen ar-lein yn derbyn manylion fy nghyfrif banc
Sicrhewch fod y cod didoli yn cael ei fewnbynnu mewn fformat rhif 6 digid, h.y. 000000. Ni ddylid cynnwys bylchau na gwahanodau rhwng y rhifau.
Ydi fy musnes yn gymwys i gael unrhyw ryddhad arall ac ati?
Mae gwybodaeth am ryddhad i’w chael ar Ardrethi Busnes yng Nghymru (Llywodraeth Cymru: Busnes Cymru). Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am Gefnogaeth Ariannol a Grantiau, cefnogaeth i bobl hunangyflogedig.