Mae’r Ailbrisiad Ardrethi Busnes nesaf ar y gweill – Ailbrisio 2023
Bydd yr Ailbrisiad nesaf ar gyfer eiddo Ardrethi Busnes yn dod i rym ar 1 Ebrill 2023 yn seiliedig ar y farchnad rentu ar 1 Ebrill 2021. Mae ailbrisiadau ardrethi busnes yn addasu gwerthoedd ardrethol - ac felly biliau ardrethi – ar sail newidiadau yn y farchnad rentu. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod newidiadau mewn gweithgarwch economaidd, sydd wedi ysgogi newidiadau yng ngwerth y farchnad, yn cael eu hadlewyrchu'n deg mewn rhwymedigaethau ardrethi busnes. Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i'r llywodraeth gyflwyno trefniadau trosiannol ym mhob Ailbrisiad. Mae'r rhain wedi cael eu defnyddio o'r blaen i gefnogi busnesau i addasu i'w biliau newydd. Pan ddaw gwybodaeth bellach i law, byddwn yn diweddaru’r dudalen hon.
Mae darparu eich gwybodaeth rhentu i Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn sicrhau y bydd yr Ardrethi Busnes y byddwch yn eu talu’n iawn. Os byddwch yn derbyn cais am fanylion rhent, prydles a pherchnogaeth gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio dylech fynd ar-lein a chwblhau'r ffurflen yma.
Mae rhagor o wybodaeth am yr Ailbrisiad ar gael yma. Sylwch mai'r Swyddfa Brisio yn unig sydd â'r awdurdod i ddiwygio'r Rhestr Ardrethu a chyflawni pob agwedd ar waith prisio.
Sylwch fod Ardrethi Busnes yn daladwy ar sail y gwerth ardrethol sy'n ymddangos yn y Rhestr Ardrethu ar hyn o bryd a'ch bod yn parhau i fod yn atebol i dalu'r cyfrif a anfonwyd atoch hyd nes y bydd y gwerth ardrethol yn y Rhestr Ardrethu wedi'i ddiwygio. Os caiff y gwerth ei ostwng, bydd unrhyw ordaliad yn cael ei ad-dalu, ynghyd ag unrhyw log a all fod yn daladwy mewn rhai amgylchiadau.