Bil blynyddol
Bydd bil blynyddol Trethi Annomestig yn cael ei gyflwyno ym mis Mawrth bob blwyddyn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Bydd y bil yn dangos deg rhan-daliad statudol o fis Ebrill i fis Ionawr sy'n daladwy ar y cyntaf o bob mis. Mae'n awr yn bosibl talu dros ddeuddeg mis er mwyn lledaenu'r gost.
Gallwch dderbyn eich bil yn electronig yn awr.
Os ydych yn talu gyda Debyd Uniongyrchol, bydd gennych ddewis o ddyddiadau talu. Cwblhewch ffurflen Debyd Uniongyrchol er mwyn i ni drefnu hyn ar eich cyfer.
Nodyn Atgoffa
Os yw'r taliad yn hwyr yna bydd nodyn atgoffa'n cael ei gyflwyno. Os yw'r taliad yn cael ei gwblhau o fewn saith niwrnod ar ôl y nodyn atgoffa yna bydd y rhan-daliadau yn parhau. Os na fyddwch yn talu fel y gofynnir i chi wneud byddwn yn cyflwyno Gwŷs Llys yr Ynadon am swm LLAWN Trethi Annomestig ar gyfer y flwyddyn. Bydd y cam gweithredu hwn yn achosi costau o £70.00.
Anawsterau'n talu eich Trethi Annomestig?
Gadewch i ni eich cynorthwyo. Os nad ydych yn gallu talu cysylltwch â'r Adran Trethi Busnes ar unwaith. Os nad ydych yn rhoi gwybod eich bod yn cael anhawster talu, gall achosi costau ychwanegol i chi eu talu.
Rhif Ffôn Adran Trethi Annomestig: 01492 576609
Ffurflen Ymholiad Ar-lein
Os ydych yn dymuno derbyn cyngor ynglŷn â'r hyn all fod ar gael i'ch busnes mewn meysydd eraill heblaw Trethi Busnes efallai y byddwch yn dymuno cysylltu ag: Adran Busnes a Datblygu'r Cyngor ar: 01492 574574 neu ar e-bost canolfanfusnes@conwy.gov.uk
Dolen: Gostyngiadau Trethi Busnes (NNDR)
Beth ddylwn i ei wneud os nad wyf yn cytuno bod Gwerth Trethiannol fy eiddo yn gywir?
Gall unrhyw un nad ydynt yn cytuno â'r Gwerth Trethiannol a ddangoswyd yn y Rhestr Graddio apelio yn erbyn y gwerth. Mae'n rhaid cyflwyno'r cynigion i'r Swyddog Prisio ac nid i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae'n rhaid anfon yr apêl yn ysgrifenedig gan nodi'r rhesymau pam eich bod yn credu fod y gwerth yn anghywir. Fodd bynnag, gall y Gwerthoedd Trethiannol fynd i fyny yn ogystal ag i lawr a bydd angen ystyried hyn wrth benderfynu os dylid apelio yn erbyn ei werth ai peidio.
Rhif Ffôn Swyddfa Brisio: 03000 504240
Gwefan: www.voa.gov.uk
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Tŷ Rhodfa
Tŷ Glas Road
Llanishen
Caerdydd
CF14 5GR
Ond, mae Trethi Annomestig yn daladwy ar sail gwerth trethiannol sydd ar y rhestr gyfredol a bydd angen i chi dalu'r swm a anfonwyd atoch chi nes y bydd y gwerth trethiannol ar y rhestr yn cael ei ddiwygio. Os yw'r gwerth yn cael ei ostwng, bydd unrhyw ordaliad yn cael ei dalu'n ôl, ynghyd ag unrhyw log all fod yn berthnasol dan rhai amgylchiadau.
Gwŷs
Os nad yw'r nodyn atgoffa yn cael ei dalu'n llawn yna bydd Gwŷs Llys yr Ynadon yn cael ei chyflwyno am swm LLAWN y Trethi Annomestig ar gyfer y flwyddyn a chostau o £70.00. Os telir yn llawn gan gynnwys y costau cyn dyddiad y llys yna ni fyddwn yn cymryd unrhyw gamau pellach. Os nad yw'n cael ei dalu yna gwneir cais am Orchymyn Atebolrwydd yn y llys.
Mae'n bosibl gwneud trefniant ar yr adeg yma ac mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'r adain Trethi Annomestig ar unwaith i drafod eich opsiynau. Sylwer, os gwneir trefniant bydd y Cyngor yn parhau i wneud cais am Orchymyn Atebolrwydd.
Rhif Ffôn Trethi Annomestig: 01492 576609
Cyfeiriad E-bost: ymholiadau.trethi-annomestig@conwy.gov.uk
Gorchymyn Atebolrwydd
Os nad yw'r costau a'r Gwŷs wedi'u talu'n llawn erbyn dyddiad y llys, gwneir cais ar gyfer Gorchymyn Atebolrwydd. Mae hyn yn rhoi pŵer i'r Cyngor adennill y ddyled trwy roi cyfarwyddyd i asiantau gorfodi neu wneud cais i'ch carcharu am 3 mis. Efallai y bydd y Cyngor yn dechrau achos methdalwr yn eich erbyn neu dderbyn gwarant am drethi sydd heb eu talu.
Asiantau Gorfodi
Os nad ydych wedi gwneud trefniant priodol mae gan y Cyngor bŵer dan Orchymyn Atebolrwydd, i ddefnyddio asiant gorfodi i gasglu'r ddyled. Mae'n rhaid gwneud unrhyw drefniant ar y cam hwn gyda'r asiant gorfodi. Bydd y cam gweithredu hwn yn achosi mwy o gostau fydd yn cael eu hychwanegu i'r swm sy'n ddyledus.
Anfon i'r Carchar
Os nad yw'r asiantau gorfodi wedi gallu adennill y ddyled a'i fod yn cael ei ddychwelyd i'r Cyngor, efallai y byddant yn cyflwyno Gwŷs Traddodi ar gyfer Ymholiad Modd.
Bydd yr Ynadon yn edrych ar eich modd ac yn penderfynu os yw'r diffyg talu yn deillio o wrthod, o ddewis, neu esgeulustod, a gallant osod cyfnod yn y carchar o hyd at DRI mis.
Achos methdalwr neu ddiddymu
Efallai y bydd y Cyngor yn dechrau achos methdalwr yn eich erbyn chi neu eich cwmni. Bydd y cam gweithredu hwn yn:
- Achosi costau pellach i'ch cyfrif
- Efallai na fydd modd i chi fod yn gyfarwyddwr cwmni.
- Bydd eich cwmni'n cael ei ddiddymu gan dderbynnydd swyddogol.
- Efallai y bydd eich eiddo neu asedau'n cael eu gwerthu i adennill y ddyled.
Gwarant ar gyfer trethi sydd heb eu talu
Efallai y bydd y cyngor yn derbyn gorchymyn codi tâl ar eich eiddo, ac efallai y bydd yn rhaid gorfodi ei werthu er mwyn adennill y ddyled a chostau ychwanegol.
Asiantau Gorfodi