O 1 Ebrill 2023, mae'r gofynion gosod ar gyfer dosbarthu eiddo hunanddarpar yn eiddo annomestig yn newid.
Bydd isafswm y diwrnodau y mae'n ofynnol i eiddo fod ar gael i'w osod mewn cyfnod o 12 mis yn cynyddu i 252 diwrnod a bydd isafswm y diwrnodau y mae'n ofynnol ei osod mewn gwirionedd yn cynyddu i 182 diwrnod.
Bydd y meini prawf diwygiedig yn cael eu defnyddio gan yr Asiantaeth wrth asesu eiddo o 1 Ebrill 2023 ymlaen.
Ewch i Wefan Busnes Cymru yma am ragor o wybodaeth.