Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Tystysgrif Safle Cymeradwy (Safle)


Summary (optional)
Gwybodaeth am y cynllun trwyddedu triniaethau arbennig hanfodol newydd ar gyfer safleoedd y disgwylir iddo ddod i rym ddiwedd 2024 (union ddyddiadau i’w cadarnhau). Mae’r wybodaeth isod yn destun newid, ac yn seiliedig ar y cynigion a’r wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd.
start content

Bydd y cynllun trwyddedu newydd yn ei gwneud yn ofynnol i safleoedd neu gerbydau lle bydd ymarferwyr trwyddedig yn ymgymryd ag unrhyw un neu rai o’r triniaethau arbennig a nodwyd (aciwbigo, tyllu rhannau o’r corff, electrolysis a/neu datŵio) gael eu cymeradwyo.  Bydd y dystysgrif gymeradwyaeth yn cael ei dyrannu i’r unigolyn sy’n gyfrifol am y busnes ar safle (gallai hynny olygu’r perchennog, rheolwr neu ymarferydd - nid oes rhaid iddynt fod yn ymgymryd â’r triniaethau eu hunain ac mae’n bosibl na fyddant yn cyflogi ymarferwyr yn uniongyrchol).  Os bydd ymarferydd yn meddu ar drwydded triniaethau arbennig ond yn cael eu cyflogi gan rywun arall, neu’n rhentu cadair/ystafell ar safle busnes rhywun arall, nid oes rhaid iddynt gael tystysgrif gymeradwyaeth safle/cerbyd eu hunain, ond dylent sicrhau bod unrhyw safle neu gerbyd y maent yn eu defnyddio wedi cael ei gymeradwyo.

Bydd yn drosedd i ymarferwr ymgymryd ag unrhyw driniaeth arbennig heb drwydded neu ymgymryd ag unrhyw driniaeth o safle neu gerbyd nad yw wedi cael ei gymeradwyo.  Bydd hefyd yn drosedd i beidio â chydymffurfio â’r gofynion penodol sydd wedi’u nodi yn y rheoliadau ar gyfer ymarferwyr a safleoedd/cerbydau.

Sut i wneud cais

Cais gan safle nad yw eisoes wedi’i gofrestru 

Ni fydd safleoedd/cerbydau newydd nad ydynt eisoes wedi cofrestru dan ddeddf 1982 ar y diwrnod y daw’r rheoliadau i rym (Hydref-Tachwedd 2024) yn gymwys ar gyfer y trefniadau pontio.  Ni ellir defnyddio’r safleoedd hyn ar gyfer unrhyw driniaethau arbennig a nodwyd nes byddant wedi cael eu cymeradwyo (a lle bo hynny’n berthnasol, nes bydd yr ymarferwyr wedi’u trwyddedu) dan y cynllun newydd.  

Gan nad yw’r cynllun wedi dod i rym eto, ni dderbynnir ceisiadau ar hyn o bryd.  Bydd y ddolen i’r broses ymgeisio electronig yn ymddangos yn fan hyn cyn/ar y dyddiad y daw’r rheoliadau i rym. 

Cais gan safle sydd eisoes wedi’i gofrestru 

Bydd gofyn i safle sydd wedi cofrestru dan ofynion presennol Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 ymgeisio am eu tystysgrif gymeradwyaeth safle eu hunain a, lle bo angen, tystysgrif triniaethau arbennig.

Bydd gan y rheiny sy’n gyfrifol am fusnes, y mae eu safle eisoes wedi’i gofrestru, 3 mis o’r dyddiad y daw’r rheoliadau i rym i gyflwyno cais am gymeradwyaeth a byddant yn elwa o drwydded bontio.  Bydd y gymeradwyaeth bontio hon yn caniatáu gweithredu busnes triniaethau arbennig ar safleoedd, yn unol â’u dogfen gofrestru bresennol, nes bydd y cais am drwydded newydd wedi cael ei gyflwyno (mae’n rhaid i ymarferwyr hefyd feddu ar drwydded neu fod wedi’u cynnwys dan y trefniadau pontio hyn i ymgymryd ag unrhyw driniaeth arbennig ar y safleoedd hyn).  

Caiff y dystysgrif gymeradwyaeth/trwydded bontio eu dyrannu’n awtomatig i bob safle ac ymarferydd sydd eisoes wedi cofrestru, ac ni fydd angen i chi wneud cais am hyn.  

Dylid cyflwyno cais am gymeradwyaeth dan y cynllun newydd o fewn y cyfnod hwn o 3 mis. 

Os na fydd cais wedi cael ei gyflwyno ar gyfer tystysgrif gymeradwyaeth safle/cerbyd erbyn diwedd y cyfnod pontio o 3 mis, ni fydd modd i ymarferwyr ddefnyddio’r safle i ymgymryd â thriniaethau arbennig a nodwyd yn gyfreithlon mwyach.  Ni fydd unrhyw eithriad i’r gofynion i gael tystysgrif gymeradwyaeth ac ni ellir ymestyn y cyfnod pontio hwn. 

Ffioedd

Cynigir y ffioedd isod ar gyfer bob tystysgrif gymeradwyaeth, tystysgrif gymeradwyaeth dros dro neu ar gyfer amrywiadau eraill.  Ni ystyrir bod cais wedi cael ei gyflwyno nes bydd ffi’r cais wedi cael ei derbyn a’i chlirio. 

 Math o DrwyddedTrwydded NewyddAdnewyddu Trwydded
Tystysgrif Safle Cymeradwy (3 blynedd).  £385.00 £345.00 

 

 Ffieodd TrwyddedFfioedd
Safle/Cerbyd Cymeradwy - Cymeradwyaeth Dros Dro (digwyddiad atodol).  £385.00
Safle/Cerbyd Cymeradwy - Cymeradwyaeth Dros Dro (confensiwn/prif bwrpas).  £680.00
Amrywio Tystysgrif Safle/Cerbyd Cymeradwy (ychwanegu triniaeth).  £189.00
Amrywio Tystysgrif Safle/Cerbyd Cymeradwy (newid strwythurol).  £189.00
Amrywio Tystysgrif Safle/Cerbyd Cymeradwy (newid manylion).  £26.00

 

Cyfnod y drwydded 

Bydd y Dystysgrif Safle Cymeradwy’n para am 3 blynedd o ddyddiad cyflwyno’r drwydded.  Bydd y tystysgrifau dros dro’n ddilys am 7 diwrnod. 

Cymhwysedd

Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed.

Dogfennau Ategol

Rhaid i geisiadau gynnwys y canlynol:

  • Cynllun o’r safle/cerbyd (gan gynnwys: mynedfeydd/allanfeydd y safle ac ystafelloedd, mesuriadau a siâp unrhyw ystafell o fewn y safle a lleoliad sinciau offer, biniau offer miniog, ystafelloedd staff, ardaloedd/cyfleusterau/ystafelloedd ar gyfer storio cynnyrch ac offer, toiledau, ardaloedd/ystafelloedd aros, sinciau golchi dwylo, biniau gwastraff, ffenestri a gorsafoedd gweithio).  
  • Tystiolaeth o yswiriant dilys yr ymgeisydd mewn perthynas â’r safle neu’r cerbyd.  
  • Tystiolaeth i ddangos bod yr ymgeisydd wedi cwblhau Gwobr Lefel 2 yn llwyddiannus (atal a rheoli haint).  

 

Prosesu ac Amserlenni

Caiff ceisiadau newydd eu prosesu o fewn yr amserlenni a nodwyd gan ganllawiau statudol/anstatudol Llywodraeth Cymru.  

Caiff safle sydd eisoes wedi cofrestru ac sydd wedi ymgeisio am Dystysgrif Safle Cymeradwy o fewn y cyfnod pontio o 3 mis, eu prosesu o fewn 3 mis o ddiwedd y cyfnod pontio, neu’n gynt (h.y. 6 mis o’r dyddiad y daw’r rheoliadau i rym).  

Deddfwriaeth ac Amodau

Mae’r Rheoliadau drafft gan gynnwys gofynion ac amodau penodol ar gyfer safleoedd ar gael ar Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau a Gymeradwywyd o ran Triniaethau Arbennig (Cymru) 2024 (senedd.cymru).

Y rheoliad trosfwaol sy’n amlinellu’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer Gweithdrefnau Arbennig a gofynion cyfreithiol eraill yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Rhan 4).

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y cynllun trwyddedu triniaethau arbennig, anfonwch e-bost at diogelwchbwyd-iechydadiogelwch@conwy.gov.uk.

Canllawiau pellach

Disgwylir i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau anstatudol ar gyfer y Cynllun Trwyddedu Triniaethau Arbennig, a fydd yn darparu gwybodaeth fanwl am ofynion y cynllun trwyddedu, sut i wneud cais am drwydded a thystysgrif gymeradwyaeth, sut i gydymffurfio â’r drwydded ac amodau cymeradwyo a’r pwerau gorfodi sydd ar gael i’r awdurdod lleol. 

Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cyhoeddi’r Canllawiau Atal a Rheoli Haint ar gyfer Triniaethau Arbennig yng Nghymru, a fydd yn darparu gwybodaeth a chanllawiau pellach ar fesurau Atal a Rheoli Haint a sut gellir eu defnyddio yn y sector triniaethau arbennig. 

Nid yw’r dogfennau hyn wedi cael eu cyhoeddi eto, a disgwylir iddynt fod ar gael cyn y dyddiad y daw’r cynllun i rym.  Bydd y dolenni i’r dogfennau hyn yn ymddangos yma unwaith y byddant ar gael.  

end content