Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cyflwyniad i'r Cynllun Trwyddedu Triniaethau Arbennig


Summary (optional)
Gwybodaeth am y cynllun trwyddedu triniaethau arbennig hanfodol newydd ar gyfer ymarferwyr a safleoedd y disgwylir iddo ddod i rym ddiwedd 2024 (union ddyddiadau i’w cadarnhau). Mae’r wybodaeth isod yn destun newid, ac yn seiliedig ar y cynigion a’r wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd.
start content

Bydd y cynllun yn ei gwneud yn ofynnol i ymarferwyr sy’n ymgymryd ag unrhyw driniaeth arbennig (gweler isod) neu rywun arall yng Nghymru gael trwydded (cyfeirir at y drwydded hon fel ‘Trwydded Triniaethau Arbennig’) a bydd yn rhaid i’r safleoedd/cerbydau a ddefnyddir i ddarparu’r triniaethau fod wedi’u cymeradwyo (drwy gael ‘Tystysgrif Safle Cymeradwy’).  Bydd y gofynion/amodau hanfodol hefyd ynghlwm â’r cynllun o fewn y Rheoliadau ar gyfer ymarferwyr a safleoedd/cerbydau. 

Bydd y gofynion cyfreithiol cyfredol mewn perthynas â chofrestru ac is-ddeddfau ar gyfer aciwbigo, tyllu rhannau o’r corff, electrolysis a thatŵio yn parhau mewn grym nes daw’r cynllun trwyddedu newydd i rym. Mae’n rhaid i gofrestriadau newydd dan y cynllun cofrestru cyfredol barhau i gael eu gwneud yn gyfreithlon cyn y daw’r cynllun newydd i rym.

Triniaethau arbennig sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun trwyddedu newydd 

Bydd y cynllun newydd ond yn berthnasol i driniaethau arbennig, a ddiffinnir yn Adran 57 Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, ac sy’n cynnwys:

  • Aciwbigo
  • Tyllu rhannau o’r corff
  • Electrolysis
  • Tatŵio (gan gynnwys colur rhannol barhaol / microlafnu)

 

Amserlenni

Disgwylir i’r Rheoliadau gael eu cyflwyno gerbron y Senedd/Cynulliad Cymru ar 17 Medi 2024. Yna, bydd y manylion terfynol yn cael eu cwblhau a bydd proses gyfreithiol ffurfiol y Senedd yn dechrau. Disgwylir i’r Rheoliadau ddod i rym ym mis Hydref-Tachwedd 2024 (mae’r union ddyddiad yn amodol ar ganlyniad proses benderfynu’r Senedd). 

Gwybodaeth arall

Mae gwybodaeth fanwl i ymarferwyr a safleoedd/cerbydau wedi’u cynnwys o dan ‘yn yr adran hon’ ar ochr dde uchaf y dudalen hon.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach am y cynllun trwyddedu triniaethau arbennig, anfonwch e-bost at foodsafety-healthandsafety@conwy.gov.uk.

end content