Cofrestr Genedlaethol ar gyfer safleoedd ac ymarferwyr
Bydd y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol gadw a chyhoeddi cofrestr o bob trwydded triniaeth arbennig ddilys a thystysgrif safle/cerbyd a gaiff eu cymeradwyo. Bydd y gofrestr hon ar gael i aelodau’r cyhoedd.
Hyfforddiant Rheoli Haint
Un o ofynion y cynllun newydd yw bod yn rhaid i ymgeiswyr fedru darparu tystiolaeth eu bod wedi cwblhau ‘Dyfarniad Lefel 2 mewn Atal a Rheoli Heintiau ar gyfer Ymarferwyr Triniaethau Arbennig’ yn llwyddiannus. Mae’n rhaid i chi fod wedi cwblhau’r cwrs hwn cyn ymgeisio. Ni dderbynnir cymwysterau rheoli haint presennol, oni bai eu bod yn bodloni’r gofynion (cwrs Cymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd Lefel 2 rheoledig).
Mae Coleg Llandrillo’n cynnig cwrs ar hyn o bryd, a byddai tystiolaeth o gwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus yn bodloni’r gofyniad hwn. Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys dyddiadau, lleoliadau a chostau’r cwrs, ymwelwch â’u gwefan Coleg Llandrillo.
Am restr lawn o ganolfannau/darparwyr sy’n cynnig y cymhwyster hwn, gallwch ymweld â gwefan y Gymdeithas Frenhinol Iechyd Cyhoeddus (RSPH)
Ymarferwyr sy’n byw y tu allan i Gymru
Dim ond yng Nghymru mae’r cynllun newydd yn berthnasol, fodd bynnag, bydd yn ofynnol i ymarferwyr sy’n byw y tu allan i Gymru ond yn gweithio yng Nghymru, gydymffurfio â’r cynllun newydd. Bydd hyn yn ymofyn trwydded triniaethau arbennig dros dro (ar gyfer gwaith achlysurol a dim mwy na 7 diwrnod) neu drwydded triniaethau arbennig tair blynedd. Yn yr amgylchiadau hyn, dylid gwneud cais i awdurdod lleol yr ardal lle mae’r ymarferydd yn bwriadu gweithio, neu lle byddant yn ymgymryd â’r mwyafrif o’u gwaith os ydynt yn bwriadu gweithio mewn mwy nag un ardal awdurdod lleol.
Ymarferwyr sy’n gweithio mewn mwy nag un Awdurdod Lleol
Bydd yn rhaid i unigolyn wneud cais i awdurdod lleol yr ardal lle maent yn ymgymryd â’r triniaethau arbennig. Os ydych chi’n gweithredu mewn mwy nag un ardal awdurdod lleol (yng Nghymru), dylech wneud cais i’r awdurdod lleol lle rydych yn ymgymryd â’r mwyafrif o’ch triniaethau arbennig. Bydd y drwydded triniaethau arbennig yn gymwys ar gyfer Cymru gyfan, cyn belled bod gan y safle dystysgrif gymeradwyaeth a’i fod wedi’i restru/grybwyll ar drwydded triniaethau arbennig yr ymarferydd.
Bydd trwyddedau triniaethau arbennig (7 diwrnod) dros dro yn berthnasol ar gyfer digwyddiad a/neu amserlen benodol. Golyga hyn bod rhaid gwneud cais newydd ar gyfer pob digwyddiad unigol (oni bai bod gan yr ymarferydd drwydded 3 blynedd).
Cylchlythyrau a gweminarau Iechyd Cyhoeddus
Mae cylchlythyrau a gweminarau Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â thriniaethau arbennig ar gael ar y gwefan Cyhoeddus Cymru.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y cynllun trwyddedu triniaethau arbennig, anfonwch e-bost at foodsafety-healthandsafety@conwy.gov.uk