Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Trwydded Triniaethau Arbennig (Ymarferwyr)


Summary (optional)
Gwybodaeth am y cynllun trwyddedu triniaethau arbennig hanfodol newydd ar gyfer ymarferwyr y disgwylir iddo ddod i rym ddiwedd 2024 (union ddyddiadau i’w cadarnhau). Mae’r wybodaeth isod yn destun newid, ac yn seiliedig ar y cynigion a’r wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd.
start content

Bydd y cynllun trwyddedu newydd yn ei gwneud yn ofynnol i ymarferwyr sy’n ymgymryd ag unrhyw driniaeth arbennig (aciwbigo, tyllu rhannau o’r corff, electrolysis a/neu datŵio) ar rywun arall yng Nghymru feddu ar drwydded. Bydd y drwydded yn nodi pa driniaeth(au) arbennig fydd yr ymarferydd wedi’u trwyddedu i ymgymryd â hwy, yn ogystal â rhestru’r safleoedd y bydd yr ymarferwyr yn eu defnyddio.  Mae’n rhaid i bob ymarferydd gael trwydded eu hunain.  Dim ond y safleoedd/cerbydau sydd wedi cael eu cymeradwyo fydd ymarferwyr trwyddedig yn gallu eu defnyddio.  

Bydd yn drosedd i ymarferwr ymgymryd ag unrhyw driniaeth arbennig heb drwydded neu ymgymryd ag unrhyw driniaeth o safle neu gerbyd nad yw wedi’i gymeradwyo. Bydd hefyd yn drosedd i beidio â chydymffurfio â’r gofynion penodol sydd wedi’u nodi yn y rheoliadau ar gyfer ymarferwyr a safleoedd/cerbydau.   

Sut i wneud cais

Cais gan ymarferwyr nad ydynt eisoes wedi cofrestru

Ni fydd ymarferwyr newydd nad ydynt eisoes wedi cofrestru dan ddeddf 1982 ar y diwrnod y daw’r rheoliadau i rym (Hydref-Tachwedd 2024) yn gymwys ar gyfer y trefniadau pontio.  Ni chaniateir i’r ymgeiswyr hyn fasnachu/gweithredu nes byddant wedi cael trwydded (a, lle bo hynny’n briodol, nes bydd eu safle/cerbyd wedi cael ei gymeradwyo) dan y cynllun newydd.  

Gan nad yw’r cynllun ar waith eto, ni dderbynnir ceisiadau ar hyn o bryd.  Bydd y ddolen i’r broses ymgeisio electronig yn ymddangos yn fan hyn cyn/ar y dyddiad y daw’r rheoliadau i rym. 

Cais gan ymarferydd sydd eisoes wedi cofrestru 

Bydd gofyn i ymarferwyr sydd wedi cofrestru dan ofynion presennol Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 ymgeisio am eu trwydded triniaethau arbennig eu hunain a, lle bo angen, tystysgrif gymeradwyaeth safle/cerbyd

Bydd gan y rheiny â chofrestriadau presennol 3 mis o’r dyddiad y daw’r rheoliadau i rym i gyflwyno cais am drwydded (a, lle bo hynny’n berthnasol, tystysgrif gymeradwyaeth) a byddant hefyd yn elwa o drwydded bontio.  Bydd y drwydded bontio hon yn galluogi ymarferwyr presennol i barhau i ymgymryd â thriniaethau arbennig (yn unol â’u dogfen gofrestru gyfredol), tra bydd y cais am drwydded newydd yn cael ei gyflwyno.  

Caiff y dystysgrif gymeradwyaeth/trwydded bontio eu dyrannu’n awtomatig i bob safle ac ymarferydd sydd eisoes wedi cofrestru, ac ni fydd angen i chi wneud cais am hyn.  

Dylid cyflwyno cais am drwydded dan y cynllun newydd o fewn y cyfnod hwn o 3 mis.

Ni fydd unrhyw un sydd heb drwydded, a, lle bo hynny’n berthnasol, tystysgrif gymeradwyaeth safle/cerbyd erbyn diwedd y cyfnod pontio o 3 mis yn gallu gweithredu’n gyfreithlon.  Ni fydd unrhyw eithriad i’r gofynion i gael trwydded/tystysgrif ac ni ellir ymestyn y cyfnod pontio hwn. 

Ffioedd

Cynigir y ffioedd isod ar gyfer bob trwydded, trwydded dros dro neu amrywiadau eraill.  Ni ystyrir bod cais wedi cael ei gyflwyno nes bydd ffi’r cais wedi cael ei derbyn a’i chlirio.  

Math o DrwyddedTrwydded NewyddAdnewyddu Trwydded
Trwydded Triniaethau Arbennig (3 blynedd). £203.00 £189.00

 

 Ffieodd TrwyddedFfioedd

Trwydded Triniaethau Arbennig Dros Dro (hyd at 7 diwrnod).

£92.00
Amrywio Trwydded Triniaethau Arbennig (ychwanegu triniaeth newydd). £131.00
Amrywio Trwydded Triniaethau Arbennig (newid manylion). £26.00
Disodli Trwydded Triniaethau Arbennig. £13.00

 

Cyfnod y drwydded 

Bydd y Trwyddedau Triniaethau Arbennig yn para 3 blynedd o ddyddiad cyhoeddi’r drwydded.  Bydd y trwyddedau dros dro’n ddilys am 7 diwrnod. 

Cymhwysedd

Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed.

Dogfennau Ategol

Rhaid i geisiadau gynnwys y canlynol:

  • Ffi’r cais (i’w thalu fel rhan o’r ffurflen gais ar-lein).
  • Llun lliw math pasbort o’ch wyneb cyfan.
  • Tystiolaeth o yswiriant dilys ar gyfer ymgymryd â thriniaethau arbennig.
  • Tystiolaeth o dystysgrif datgeliad sylfaenol diweddar (y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd).
  • Datganiad o droseddau perthnasol (fel yr amlinellir yn y Ddeddf).  
  • Tystiolaeth o fod wedi cwblhau Gwobr Lefel 2 yn llwyddiannus (atal a rheoli haint).
  • Cadarnhad o enw a dyddiad geni (e.e. pasbort, trwydded yrru ac ati). 
  • Cadarnhad o’ch cyfeiriad preswyl presennol (e.e. trwydded yrru, llythyr treth y Cyngor, bil cyfleustodau ac ati).  

 

Prosesu ac Amserlenni

Caiff ceisiadau newydd eu prosesu o fewn yr amserlenni a nodwyd gan ganllawiau statudol/anstatudol Llywodraeth Cymru.  

Caiff ymarferwyr sydd eisoes wedi cofrestru, sy’n ymgeisio am Drwydded Triniaethau Arbennig o fewn y cyfnod pontio o 3 mis, eu prosesu o fewn 3 mis o ddiwedd y cyfnod pontio, neu’n gynt (h.y. 6 mis o’r dyddiad y daw’r rheoliadau i rym).  

Deddfwriaeth ac Amodau

Mae’r Rheoliadau drafft gan gynnwys gofynion ac amodau penodol ar gyfer ymarferwyr ar gael ar Rheoliadau Trwyddedau Triniaeth Arbennig (Cymru) 2024 (senedd.cymru).

Y rheoliad trosfwaol sy’n amlinellu’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer Gweithdrefnau Arbennig a gofynion cyfreithiol eraill yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Rhan 4)

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y cynllun trwyddedu triniaethau arbennig, anfonwch e-bost at diogelwchbwyd-iechydadiogelwch@conwy.gov.uk

Canllawiau pellach

Disgwylir i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau anstatudol ar gyfer y Cynllun Trwyddedu Triniaethau Arbennig, a fydd yn darparu gwybodaeth fanwl am ofynion y cynllun trwyddedu, sut i wneud cais am drwydded a thystysgrif gymeradwyaeth, sut i gydymffurfio â’r drwydded ac amodau cymeradwyo a’r pwerau gorfodi sydd ar gael i’r awdurdod lleol. 

Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cyhoeddi’r Canllawiau Atal a Rheoli Haint ar gyfer Triniaethau Arbennig yng Nghymru, a fydd yn darparu gwybodaeth a chanllawiau pellach ar fesurau Atal a Rheoli Haint a sut gellir eu defnyddio yn y sector triniaethau arbennig. 

Nid yw’r dogfennau hyn wedi cael eu cyhoeddi eto, a disgwylir iddynt fod ar gael cyn y dyddiad y daw’r cynllun i rym.  Bydd y dolenni i’r dogfennau hyn yn ymddangos yma unwaith y byddant ar gael.  

end content