Un o’n prif amcanion corfforaethol yw sicrhau bod pobl yng Nghonwy yn cael gwybodaeth, yn cael eu cynnwys ac yn cael llais a gallant gyfrannu at gymuned ble mae eu cefndir a’u hunaniaeth yn cael ei werthfawrogi a’i barchu.
Y nod cyffredinol ar gyfer y strategaeth yw “Adeiladu ymddiriedaeth a dealltwriaeth ymysg preswylwyr Conwy wrth i ni ddatblygu ein rôl ddeuol fel galluogwyr a darparwyr gwasanaethau”.
Mae'r strategaeth hon yn nodi'n fanwl sut y byddwn yn ymgysylltu â chymunedau Conwy i gyfleu ein cynlluniau a'n hamcanion.
Dylai ein hymagwedd fod yn:
- Gyson
- Wedi’i gynllunio
- Rhagweithiol
- Dibynadwy
- Ar gael i bawb
- Cynhwysol
- Ymatebol