Ein gweledigaeth
‘Gall pobl Gogledd Cymru fyw bywydau diogel, cydradd a di-drais, mewn cymunedau heb ddioddef camdriniaeth na chamfanteisio’.
Mae Gogledd Cymru’n cydweithio ar daclo pob agwedd ar Drais yn Erbyn Merched, Cam-drin Domestig, Trais Rhywiol, Caethwasiaeth Fodern, Masnachu Pobl, Troseddau Mewnfudo Cyfundrefnol a Chamfanteisio.
Mae Bwrdd Bregusrwydd a Chamfanteisio Gogledd Cymru yn cynrychioli’r holl bartneriaid statudol ac anstatudol ledled y rhanbarth, gydag ymrwymiad i ddull cydweithredol a chydlynol o fynd i’r afael â phob elfen o fregusrwydd a chamfanteisio.
Mae Strategaeth Bregusrwydd a Chamfanteisio Gogledd Cymru 2021-2024 yn cynnwys dull amlasiantaeth o fynd i’r afael â bregusrwydd a cham-fanteisio yng Ngogledd Cymru. Mae agendau Trais yn Erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) a Chaethwasiaeth Fodern wedi eu halinio â’r pedwar Amcan Strategol:
Paratio Atal Gwarchod Ymroi
Mae'r Strategaeth yn galluogi ac yn cefnogi arferion a syniadau arloesol, yn ogystal â chefnogi gwasanaethau presennol, er mwyn darparu pecyn cydlynus o gymorth i ddioddefwyr, goroeswyr a’u teuluoedd. Mae’r strategaeth hefyd yn sicrhau bod cyflawnwyr yn atebol ac yn cefnogi cymunedau er mwyn hyrwyddo ethos o ddiogelwch, cydraddoldeb a lles.
Strategaeth Bregusrwydd a Chamfanteisio Gogledd Cymru 2021-2024 - Diweddariad ar Gynnydd, Mehefin 2022 (PDF, 555KB)
Strategaeth Bregusrwydd a Chamfanteisio Gogledd Cymru 2021-2024 - Diweddariad ar Gynnydd, Mawrth 2023 (PDF, 726KB)
Strategaeth Bregusrwydd a Chamfanteisio Gogledd Cymru 2021-2025 - Diweddariad ar Gynnydd, Ebrill 2024 (PDF, 49KB)