Mae Conwy wedi ymrwymo i ddarpariaeth gelfyddydol fel sbardun economaidd ac yn fodd o hwyluso cydlyniant cymunedol yn ogystal â bod yn ffordd o helpu pobl i fod yn ddinasyddion ymrwymedig ac fel rhan o addysg i helpu i ddatblygu ein pobl ifanc i fod yn hyderus, i fod ag empathi a bod yn fedrus ar gyfer eu bywydau yn y dyfodol.
Mae’r ddogfen hon yn disgrifio’r sefyllfa bresennol gyda’r Celfyddydau yng Nghonwy ac yn rhan o fframwaith ehangach o bolisïau a strategaethau yng Nghymru a’r DU sy’n cefnogi ac yn hyrwyddo’r celfyddydau. Yn benodol, mae’r strategaeth hon yn edrych i gefnogi’r gwaith o gyflawni nodau allweddol Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r rheiny yng Nghynllun Corfforaethol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ei hun. Mae’r cynllun hefyd yn cael ei ddylanwadu gan adroddiad Dyfodol Llwyddiannus yr Athro Graham Donaldson. Mae Adolygiad Annibynnol o Drefniadau Cwricwlwm ac Asesu yng Nghymru yn argymell bod Celfyddydau Mynegiannol yn un o’r chwe maes cyfartal ar gyfer dysgu a phrofiad. Mae’r strategaeth hefyd yn cefnogi Dysgu Creadigol trwy’r Celfyddydau gan Gyngor Celfyddydau Cymru - cynllun gweithredu i Gymru 2015-2020.
Rydym yn credu bod y celfyddydau yn cyfrannu at bob un o’r canlyniadau hyn a byddwn yn ystyried y canlyniadau hyn wrth gynllunio ein gweithgareddau celfyddydol ein hunain neu wrth weithio ar brosiectau partneriaeth.
Byddwn yn ystyried effaith y celfyddydau ar draws ein gwasanaethau a byddwn yn defnyddio’r celfyddydau er budd ein trigolion a’n hymwelwyr pryd bynnag y bo modd.
Byddwn yn annog ac yn cefnogi’r celfyddydau o fewn ein hamgylcheddau dysgu.