Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, rydyn ni'n gwneud nifer o weithgareddau sy’n cael effaith gadarnhaol a negyddol ar yr amgylchedd ac yn cydnabod bod gennym rôl flaenllaw i warchod a chynnal amgylchedd naturiol y sir.
I’n helpu ni leihau a rheoli'r effeithiau amgylcheddol negyddol ac i barhau i wella ein perfformiad amgylcheddol cadarnhaol, rydym wedi gweithredu Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd ar draws ein holl wasanaethau.
Mae’r Ddraig Werdd yn cael ei gwirio’n annibynnol drwy asesiad blynyddol ac mae ein perfformiad amgylcheddol yn cael ei grynhoi yn yr adroddiad amgylcheddol blynyddol, sydd ar gael isod.