Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

GGMC Rheoli Cŵn 2023: Gorchymyn


Summary (optional)
start content

Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Cŵn 2023

Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (Rhan 4 Pennod 2 Adrannau 59-75)

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ("y Cyngor") wrth arfer ei bwerau o dan Adran 59 Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 ("y Ddeddf") ac o dan yr holl bwerau galluogi eraill, yn gwneud y gorchymyn canlynol:

1.  Gellir galw’r Gorchymyn yn “Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (Rheoli Cŵn) Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy 2023” (‘y Gorchymyn’) ac mae’n berthnasol i bob man cyhoeddus a ddisgrifir yn Atodlenni’r Gorchymyn ac a ddangosir ar y cynlluniau sydd ynghlwm wrth y Gorchymyn hwn (“yr ardaloedd cyfyngedig”).  

2.  Wrth wneud y Gorchymyn hwn, mae’r Cyngor yn fodlon ar sail resymol bod:-

(i) gweithgareddau a gynhaliwyd mewn man cyhoeddus o fewn ardal yr awdurdod wedi cael effaith andwyol ar ansawdd bywyd y rhai hynny sydd yn yr ardal, neu mae’n debygol y bydd gweithgareddau yn cael eu cynnal mewn man cyhoeddus yn yr ardal ac y byddant yn cael effaith o’r fath;

(ii) effaith, neu effaith tebygol y gweithgareddau yn, neu’n debygol o fod  o natur gyson neu barhaus, gan wneud y gweithgareddau’n afresymol, ac yn cyfiawnhau’r cyfyngiadau a osodir gan y Gorchymyn.

3.  Mae’r Cyngor hefyd yn fodlon bod y gwaharddiadau a’r gofynion a nodir yn y Gorchymyn hwn yn rhesymol:-  

(i) i atal yr effaith andwyol ar ansawdd bywyd pobl yn yr ardal rhag parhau, digwydd neu ailddigwydd; neu

(ii) i leihau’r effaith andwyol neu i leihau’r risg ei fod yn parhau, yn digwydd neu'n ailddigwydd.

4.  Fe ddaw’r Gorchymyn hwn i rym ar 21ain Hydref 2023 a bydd yn parhau i fod mewn grym am gyfnod o dair blynedd o’r dyddiad hwnnw.

5.  Cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i ben, fe all y Cyngor ei ymestyn, ei amrywio neu ei ddileu yn unol â darpariaethau’r Ddeddf. 

DRWY’R GORCHYMYN HWN

6.  Effaith y Gorchymyn yw gosod y gwaharddiadau a/neu’r gofynion canlynol yn yr ardaloedd cyfyngedig bob amser:-

(i) BAEDDU TIR GAN GŴN

(a) Os bydd ci yn ysgarthu ar unrhyw adeg ar dir yn yr ardal dan gyfyngiadau a fanylir yn Atodlen 1 y Gorchymyn hwn, rhaid i’r unigolyn sydd â chyfrifoldeb dros y ci ar yr adeg hynny gael gwared ar y baw o’r tir ar unwaith, oni bai:-  

(i) bod gan yr unigolyn hwnnw esgus rhesymol dros fethu â gwneud hynny; neu

(ii) bod  perchennog/meddiannydd  neu unigolyn neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu’n benodol) i’r unigolyn hwnnw beidio â gwneud hynny; neu

(iii) bod yr unigolyn hwnnw yn destun yr eithriadau a restrir yn Atodlen 1.   

(b) At ddibenion yr erthygl hon:-

(i) cymerir bod unigolyn y mae ci fel rheol yn ei feddiant yn gyfrifol am y ci hwnnw ar unrhyw adeg oni bai fod rhyw unigolyn arall yn gyfrifol am y ci hwnnw ar yr adeg honno

(ii) bydd rhoi’r baw mewn cynhwysydd a ddarperir ar y tir at y diben hwnnw, neu ar gyfer gwaredu gwastraff, yn ddigonol i gael gwared ohono oddi ar y tir;

(iii) ni fydd bod yn anymwybodol o’r ysgarthu (naill ai gan nad oeddech yn y cyffiniau neu fel arall), neu nad oes gennych declyn i gael gwared ar y baw ci neu ddull arall addas o wneud hynny yn esgus rhesymol dros fethu â chael gwared ar y baw ci.

(ii) MODD O GAEL GWARED AR FAW

(a) Mae’n rhaid i unigolyn sydd â chyfrifoldeb dros gi ar dir yn yr ardal dan gyfyngiadau a fanylir yn Atodlen 2 fod â modd addas gyda nhw i godi’r baw'r ci oni bai -

(i) bod gan yr unigolyn hwnnw esgus rhesymol dros beidio â gwneud hynny; neu

(ii) bod perchennog/meddiannydd y tir neu unigolyn neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu’n benodol) i’r unigolyn hwnnw beidio â gwneud hynny; neu

(iii) bod yr unigolyn hwnnw yn destun yr eithriadau a restrir yn Atodlen 2. 

(b) Fe gydymffurfir â’r rhwymedigaeth yn Erthygl 6 (ii) (a) os bydd yr unigolyn sydd â chyfrifoldeb dros y ci yn cyflwyno dull addas o bigo baw’r ci i fyny, yn dilyn cais gan swyddog awdurdodedig o’r Cyngor i wneud hynny.

(c) Yn yr erthygl hon o’r Gorchymyn, ystyr 'swyddog awdurdodedig o’r Cyngor’ ydi unigolyn sydd wedi’i awdurdodi gan y Cyngor at ddibenion rhoi cyfarwyddiadau o dan yr erthygl hon.

(iii) GWAHARDD CŴN – GWAHARDDIAD GYDOL Y FLWYDDYN

(a) Ni ddylai unigolyn sydd â chyfrifoldeb dros gi fynd â’r ci hwnnw ar unrhyw dir yn yr ardaloedd cyfyngedig y cyfeirir atynt yn Atodlen 3 y Gorchymyn hwn, neu ganiatáu iddynt fynd arno neu aros arno oni bai:-   

(i) bod gan yr unigolyn hwnnw esgus rhesymol dros wneud hynny; neu

(ii) bod perchennog y tir, meddiannydd y tir neu unigolyn neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu’n benodol) i’r unigolyn wneud hynny; neu   (iii) bod yr unigolyn hwnnw yn destun yr eithriadau a restrir yn Atodlen 3.

(iii) bod yr unigolyn hwnnw yn destun yr eithriadau a restrir yn Atodlen 3.

(b) At ddiben yr erthygl hon:-   

(i) cymerir bod unigolyn y mae ci fel rheol yn ei feddiant yn gyfrifol am y ci hwnnw ar unrhyw adeg oni bai fod rhyw unigolyn arall yn gyfrifol am y ci hwnnw ar yr adeg honno.

(iv) GWAHARDD CŴN – GWAHARDDIAD TYMHOROL

(a) Ni ddylai unigolyn sydd â chyfrifoldeb dros gi fynd â’r ci hwnnw ar unrhyw dir yn yr ardaloedd cyfyngedig y cyfeirir atynt yn Atodlen 4 y Gorchymyn hwn, neu ganiatáu iddynt fynd arno neu aros arno oni bai:-   

(i) bod gan yr unigolyn hwnnw esgus rhesymol dros wneud hynny; neu

(ii) bod perchennog y tir, meddiannydd y tir neu unigolyn neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu’n benodol) i’r unigolyn wneud hynny; neu

(iii) bod yr unigolyn hwnnw yn destun yr eithriadau a restrir yn Atodlen 4.

(b) At ddiben yr erthygl hon:-

(i) cymerir bod unigolyn y mae ci fel rheol yn ei feddiant yn gyfrifol am y ci hwnnw ar unrhyw adeg oni bai fod rhyw unigolyn arall yn gyfrifol am y ci hwnnw ar yr adeg honno.

(v) CŴN AR DENNYN

(a) Rhaid i unigolyn sydd â chyfrifoldeb dros gi ar unrhyw adeg, roi a chadw’r ci ar dennyn yn yr ardal dan gyfyngiadau a fanylir yn Atodlen 5 oni bai:-   

(i) bod gan unigolyn esgus rhesymol dros beidio â gwneud hynny; neu

(ii) bod perchennog y tir, meddiannydd y tir neu unigolyn neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu’n benodol) i’r unigolyn wneud hynny.

(b) At ddiben yr erthygl hon:-

(i) cymerir bod unigolyn y mae ci fel rheol yn ei feddiant yn gyfrifol am y ci hwnnw ar unrhyw adeg oni bai fod rhyw unigolyn arall yn gyfrifol am y ci hwnnw ar yr adeg honno.

(vi) CŴN AR DENNYN TRWY GYFARWYDDYD

(a) Rhaid i unigolyn sydd â chyfrifoldeb dros gi ar unrhyw adeg, roi a chadw’r ci ar dennyn pan roddir cyfarwyddyd iddynt wneud hynny yn yr ardal dan gyfyngiadau a fanylir yn Atodlen 6 oni bai:- 

(i) bod gan unigolyn esgus rhesymol dros beidio â gwneud hynny; neu

(ii) bod perchennog y tir, meddiannydd y tir neu unigolyn neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu’n benodol) i’r unigolyn wneud hynny.

(b) At ddiben yr erthygl hon:-

(i) cymerir bod unigolyn y mae ci fel rheol yn ei feddiant yn gyfrifol am y ci hwnnw ar unrhyw adeg oni bai fod rhyw unigolyn arall yn gyfrifol am y ci hwnnw ar yr adeg honno;

(ii) ni chaiff swyddog awdurdodedig o’r Cyngor roi cyfarwyddyd o dan y Gorchymyn hwn i roi ci ar dennyn a’i gadw arno oni fo’r cyfryw lyffethair yn rhesymol angenrheidiol i atal niwsans neu ymddygiad gan y ci sy’n debygol o beri blinder neu aflonyddwch i unrhyw unigolyn arall ar unrhyw dir y mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo neu o gyffroi unrhyw anifail neu aderyn neu aflonyddu arnynt.

(iii) yn yr erthygl hon, ystyr “swyddog awdurdodedig o’r Cyngor” ydi unigolyn sydd wedi’i awdurdodi gan y Cyngor at ddibenion rhoi cyfarwyddiadau o dan yr erthygl hon.

COSB

7.1  Bydd unrhyw unigolyn sydd, heb esgus rhesymol yn methu â chydymffurfio â’r gofynion neu’r gwaharddiadau yn erthyglau 6(i), 6 (ii), 6(iii), 6(iv), 6(v), 6(vi) y Gorchymyn hwn, yn agored o'i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n fwy na lefel 3 (£1000 ar hyn o bryd) ar y raddfa safonol.

COSB BENODEDIG

8.1  Gall swyddog heddlu neu unigolyn awdurdodedig o’r Cyngor roi hysbysiad cosb benodedig i unigolyn y mae o neu hi yn credu sydd wedi cyflawni trosedd.  Rhaid i unigolyn sy’n cyflawni trosedd dalu’r gosb benodedig o £100 o fewn 28 diwrnod, ac os na fyddant yn gwneud hynny, efallai y cânt eu herlyn.

8.2  Hysbysiad  cosb benodedig ydi hysbysiad sydd yn rhoi cyfle i’r unigolyn a’i derbyniodd i ryddhau unrhyw atebolrwydd i gollfarn am y drosedd trwy dalu cosb benodedig i’r Cyngor.

8.3  Pan fydd unigolyn yn derbyn hysbysiad cosb benodedig o dan y Gorchymyn hwn:-

(a) ni ellir dwyn achos am y drosedd cyn diwedd cyfnod o  28 diwrnod ar ôl dyddiad y rhybudd;

(b) ni ellir dyfarnu unigolyn yn euog am y drosedd os ydi’r unigolyn hwnnw yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

APELIADAU

9.1  Rhaid cyflwyno unrhyw her i’r Gorchymyn hwn i’r Uchel Lys gan unigolyn â buddiant o fewn 6 wythnos ar ôl iddo gael ei gyflwyno neu ei amrywio. “Unigolyn â buddiant” ydi rhywun sy’n byw, yn gweithio’n rheolaidd yn, neu'n ymweld â’r ardal gyfyngedig. Mae hyn yn golygu mai dim ond y rhai y mae’r cyfyngiadau’n effeithio’n uniongyrchol anynt sydd â’r hawl i apelio. Mae’r hawl i herio hefyd yn bodoli lle mae gorchymyn yn cael ei amrywio gan y Cyngor. 

9.2  Gall unigolion â buddiant herio dilysrwydd y Gorchymyn ar ddwy sail:-

(i) nad oedd gan y Cyngor y pŵer i wneud y gorchymyn neu amrywiad, neu i gynnwys gwaharddiadau neu ofynion penodol a osodwyd gan y Gorchymyn; neu

(ii) na chydymffurfiwyd â gofyniad o dan y ddeddfwriaeth i wneud neu amrywio Gorchymyn.   

9.3 Pan gyflwynir cais, gall yr Uchel Lys benderfynu atal gweithrediad y Gorchymyn, neu rai o’r gwaharddiadau neu ofynion a osodwyd gan y Ddeddf, nes y gwneir penderfyniad terfynol.   

9.4 Mae gan yr Uchel Lys y gallu i gynnal y Gorchymyn, ei ddileu neu ei amrywio.

Tudalen nesaf:  Atodlen 1 - Baeddu tir gan gŵn

end content