Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Cŵn Rheoli eich ci mewn mannau cyhoeddus Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Atodlen 3 - Gwahardd cŵn (gwaharddiad gydol y flwyddyn)

GGMC Rheoli Cŵn 2023: Atodlen 3 - Gwahardd cŵn (gwaharddiad gydol y flwyddyn)


Summary (optional)
start content

(1) Pob man cyhoeddus o fewn ardal gyfan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fel y’u dangosir yng Nghynllun 1, yn benodol yn ymwnued â’r ardaloedd isod

(a) Pob Lle Chwarae Plant sydd wedi’i amgylchynu â ffens

(b) Pob Ardal Chwaraeon Amlddefnydd

(c) Pob Cwrt Tennis

(d) Pob Parc Sglefrio

(e) Pob Lawnt Fowlio

(f) Pob Maes Hamdden sy’n gysylltiedig â Sefydliadau Addysgol

(g) Ardal Chwarae  Pob Cae Chwarae Wedi’i Farcio

Gan gynnwys hefyd y meysydd penodol a restrir isod ac a ddangosir mewn coch yng Nghynllun 2

(h) Cae Chwarae Betws-Yn-Rhos, Betws-Yn-Rhos

(i) Cae Chwarae Capel Garmon, Capel Garmon

(j) Cae Pêl-droed Cae Ffwt, Glan Conwy

(k) Cae Chwarae Gyffin, Gyffin

(l) Ardal Hamdden Ffordd Gowers, Trefriw

(m) Cae Chwarae Cae Llwyd, Cerrigydrudion

(n) Cae Chwarae Maes Aled, Llansannan

(o) Cae Pêl-droed, lawnt fowlio a’r ardal gemau amlddefnydd, Llansannan

(p) Cae Pêl-droed, lawnt fowlio, pwll nofio, cyrtiau tennis a’r ardal chwarae plant, Llanfairfechan

(q) Clwb Golff Gogledd Cymru ac eithrio’r llwybrau cyhoeddus ar y tir, Llandudno

(r) Traeth Bae Colwyn Bay – yr ardal o draeth rhwng y marc llanw isel a wal y promenâd  rhwng y pwynt mwyaf atfor o benrhyn Porth Eirias ac ochr ddwyreiniol lein pier Bae Colwyn

(s) Rhos Point, Llandrillo-yn-Rhos - y darn bach o draeth tywodlyd heb ei olchi gan y llanw

(t) Cae Cymunedol Minafon, Hen Golwyn

(u) Parc Penmachno, Stryd Newgate, Penmachno

(v) Rhos Point i Bwynt Mynediad y Promenâd gyferbyn â College Avenue, Llandrillo yn Rhos - rhan o’r traeth rhwng y marc llanw isel a wal y promenâd.

Ystyr “Man Cyhoeddus” yn y Gorchymyn hwn ydi unrhyw dir:-

(i) sydd yn agored i’r awyr (sy’n cynnwys unrhyw dir dan do ond yn agored i’r awyr ar o leiaf un ochr); a;    (ii) tir y mae gan y cyhoedd neu ran o’r cyhoedd hawl neu ganiatâd i gael mynediad iddo (gyda neu heb daliad), trwy hawl neu yn rhinwedd caniatâd a fynegwyd neu ymhlyg.

(2) Eithriadau – Does dim yn yr Atodlen hon yn berthnasol i unigolyn:-

(i) sydd wedi cofrestru’n swyddogol fel unigolyn dall; neu

(ii) sydd ag anabledd sydd yn effeithio ar ei symudedd, ei law deheurwydd, ei gydsymud corfforol neu eu gallu i godi, i gario neu i symud gwrthrychau bob dydd mewn modd arall, mewn perthynas â chi a hyfforddwyd gan elusen ragnodedig ac y mae’r unigolyn hwnnw yn dibynnu arno am gymorth; neu

(iii) yn defnyddio ci gwaith at ddibenion gorfodi’r gyfraith, dyletswyddau milwrol, gwasanaethau brys statudol (chwilio ac achub) neu i gyfeirio anifeiliaid, tra bod y ci’n gweithio.

(3) At ddiben yr Atodlen hon, mae'r canlynol yn "elusennau a ragnodwyd":-

(i) Dogs for the Disabled (elusen gofrestredig rhif 700454);

(ii) Support Dogs (elusen gofrestredig rhif 1088281); a

(iii) Canine Partners for Independence (elusen gofrestredig rhif 803680).

Tudalen nesaf:  Atodlen 4 - Gwahardd cŵn (gwaharddiad tymhorol)

end content