Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

GGMC Rheoli Cŵn 2023: Atodlen 4 - Gwahardd cŵn (gwaharddiad tymhorol)


Summary (optional)
start content

(1) Pob traeth yn dymhorol rhwng 1 Mai a 30 Medi gan gynnwys glan y môr a blaen draeth yn unol ag (a) i (e) isod ac fel y’u dangosir mewn coch ar Gynllun 3

(a) Pensarn – yr ardal o draeth rhwng y marc llanw isel a’r promenâd rhwng y polion pren a fewnosodwyd geri adeilad y caffi a’r polion concrid a fewnosodwyd ar ben eithaf gorllewinol y promenâd.

(b) Traeth y Gogledd, Llandudno – yr ardal o draeth rhwng y marc llanw isel a’r promenâd yn ymestyn o Bier Llandudno i’r llithrfa gyntaf (ond ddim yn cynnwys y llithrfa).

(c) Pen Morfa, Llandudno – y darn o draeth sy’n ymestyn rhwng y marc llanw isel a’r promenâd sy’n ymestyn rhwng y ddau grwyn cerrig.

(d) Penmaenmawr – ardal o’r traeth rhwng y marc dŵr isel a’r promenâd o’r ochr ddwyreiniol o’r caffi a leolir ar y promenâd a’r llithrfa sy’n gysylltiedig â’r clwb hwylio.

(e) Llanfairfechan – ardal o’r traeth sy’n ymestyn rhwng y marc dŵr isel a’r promenâd rhwng y brif lithrfa a cheg yr afon (ond nid i gynnwys y lithrfa).

(2)  Eithriadau – Does dim yn yr Atodlen hon yn berthnasol i unigolyn:-

(i) sydd wedi cofrestru’n swyddogol fel unigolyn dall; neu

(ii) sydd ag anabledd sydd yn effeithio ar ei symudedd, ei law deheurwydd, ei gydsymud corfforol neu eu gallu i godi, i gario neu i symud gwrthrychau bob dydd mewn modd arall, mewn perthynas â chi a hyfforddwyd gan elusen ragnodedig ac y mae’r unigolyn hwnnw yn dibynnu arno am gymorth; neu

(iii) yn defnyddio ci gwaith at ddibenion gorfodi’r gyfraith, dyletswyddau milwrol, gwasanaethau brys statudol (chwilio ac achub) neu i gyfeirio anifeiliaid, tra bod y ci’n gweithio.

(3)  At ddiben yr Atodlen hon, mae'r canlynol yn "elusennau a ragnodwyd":-

(i) Dogs for the Disabled (elusen gofrestredig rhif 700454);

(ii) Support Dogs (elusen gofrestredig rhif 1088281); a

(iii) Canine Partners for Independence (elusen gofrestredig rhif 803680).

Tudalen nesaf:  Atodlen 5 - Cŵn ar dennyn

end content