Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

GGMC Rheoli Cŵn 2023: Atodlen 5 - Cŵn ar dennyn


Summary (optional)
start content

(1)  Pob ffordd gyhoeddus a phalmant sydd yn destun cyfyngiad cyflymder o 40mya neu lai o fewn ardal gyfan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

(a) Yn y Gorchymyn hwn, y diffiniad o “ffordd” ydi pob priffordd gyhoeddus sydd â hawl tramwy i gerbydau modur (sydd yn cynnwys ardaloedd ar gyfer palmentydd, troedffyrdd ac ymylon ffordd ar gyfer cerddwyr o fewn priffordd

(b) Yn adran 185(1) Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1988 ac adran 136(1) Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, y diffiniad o “gerbydau modur” ydi “cerbyd a yrrir yn fecanyddol a fwriadwyd neu a addaswyd i’w ddefnyddio ar ffyrdd”.

(2)  Yr holl dir yn ardal gyfan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fel y dangosir yng Nghynllun 1, yn benodol

(a) Pob Mynwent ac lard Eglwys

(b) Pob Maes Parcio

Gan gynnwys hefyd y meysydd penodol a restrir isod ac a ddangosir mewn piws yng Nghynllun 4

(c) Caeau Chwarae Cae Derw, Cyffordd Llandudno; nid yw’n cynnwys yr ardal â ffens a ddynodwyd ar gyfer ymarfer corff i gŵn

(d) Cae Chwarae Trinity Avenue, Llandudno; ac eithrio’r ardal a ddynodwyd (llinell derfyn) ar gyfer ymarfer corff i gŵn

(e) Cae Chwarae Owain Glyndwr, Bae Cinmel; ac eithrio’r ardal (llinell derfyn) a ddynodwyd ar gyfer ymarfer corff i gŵn 

(f) Cae Hamdden Parc Clwyd, Bae Cinmel ac eithrio’r ardal â ffens a ddynodwyd ar gyfer cŵn

(g) Cae Chwarae Betws yn Rhos, Betws yn Rhos

(h) Cae Hamdden Pentywyn Road, Deganwy

(i) The Oval, Llandudno

(j) Maes Hamdden Maesdu Road, Llandudno

(k) Cae Hamdden Rowen, Rowen

(l) Llwybr Glanrafon o’r Bont i Faes Parcio Plas yn Dre, Llanrwst

(m) Llwybrau Troed yn croesi ac amgylchynu Clwb Golff, Betws y Coed

(n) Pwll Padlo Cymunedol Craig y Don / Llandudno

(o) Tir Cymunedol a Hamdden Llysfaen, Dolwen Road, Llysfaen

(p) Twyni Tywod, Bae Cinmel

(q) Maes Hamdden Llanfairfechan a Thir o amgylch y Llyn Cychod to the western boundary of the property known as Gorsefield, Llanfairfechan

(r) Ystâd Gwrych, Abergele

(s) Ardal o Barc Bodlondeb yn cynnwys yae pêl-droed,  y cae criced, a’r cyrtiau tennis, Conwy

(t) Y tir hamdden sy’n amgylchynu’r cae pêl-droed, y lawnt fowlio a’r ardal gemau amlddefnydd, Llansannan

(u) Llwybrau troed cyhoeddus yn croesi Clwb Golff Golgedd Cymru, Llandudno

(v) Queens Gardens, Bae Colwyn

Pob traeth yn dymhorol rhwng 1 Mai a 30 Medi gan gynnwys glan y môr a blaen draeth yn unol ag (w) isod ac fel y’u dangosir mewn piws ar Gynllun 4.

(w) Kinmel Bay – yr ardal o'r traeth rhwng y marc llanw isel a'r promenâd rhwng y fynedfa i'r traeth o faes parcio St Asaph Avenue, Bae Cinmel a'r fynedfa g gyntaf i'r traeth o'r promenâd ger Woodside Avenue, Bae Cinmel

(3)  Eithriadau – Does dim yn yr Atodlen hon yn berthnasol i unigolyn:-

(i) sydd wedi cofrestru’n swyddogol fel unigolyn dall; neu

(ii) sydd ag anabledd sydd yn effeithio ar ei symudedd, ei law deheurwydd, ei gydsymud corfforol neu eu gallu i godi, i gario neu i symud gwrthrychau bob dydd mewn modd arall, mewn perthynas â chi a hyfforddwyd gan elusen ragnodedig ac y mae’r unigolyn hwnnw yn dibynnu arno am gymorth; neu

(iii) yn defnyddio ci gwaith at ddibenion gorfodi’r gyfraith, dyletswyddau milwrol, gwasanaethau brys statudol (chwilio ac achub) neu i gyfeirio anifeiliaid, tra bod y ci’n gweithio.

(4)  At ddiben yr Atodlen hon, mae'r canlynol yn "elusennau a ragnodwyd":-

(i) Dogs for the Disabled (elusen gofrestredig rhif 700454);

(ii) Support Dogs (elusen gofrestredig rhif 1088281); a

(iii) Canine Partners for Independence (elusen gofrestredig rhif 803680).

Tudalen nesaf:  Atodlen 6 - Cŵn ar dennyn trwy gyfarwyddyd

end content