Mae’n rhaid i bob ysgol, yn unol â’r gyfraith, gael polisi ymddygiad. Yn ogystal, rydym ni’n disgwyl i ysgolion fod â pholisi gwrth-fwlio sy’n nodi sut maent yn mynd i’r afael â bwlio yn yr ysgol. Dylai bod y polisi gwrth-fwlio neu’r polisi ymddygiad yn nodi’r camau ar gyfer rhoi gwybod am achos o fwlio. Dylai bod y polisïau hyn ar gael ar wefan yr ysgol neu fe allwch chi ofyn am gopi yn uniongyrchol gan yr ysgol.
Bydd arnoch chi angen cyfeirio at bolisi ysgol eich plentyn ar gyfer manylion penodol y camau adrodd ond dyma’r camau cyffredinol y bydd angen eu cymryd yn ysgrifenedig. Fe ddylech chi gymryd pob cam yn eu trefn; gan roi digon o amser a chyfle i’r ysgol roi camau gweithredu ar waith i wneud iawn a rhoi digon o amser i’r camau gweithredu gael effaith. Efallai na fydd hi’n bosibl datrys y mater yn syth bin, ond fe ddylech chi deimlo’n hyderus bod camau gweithredu amserol yn cael eu cymryd. Os nad ydych chi’n teimlo bod hyn yn digwydd, yna fe allwch chi symud at gam nesaf y broses.
- Cam 1: rhoi gwybod i athro dosbarth / tiwtor dosbarth / pennaeth blwyddyn
- Cam 2: rhoi gwybod i’r Pennaeth
- Cam 3: rhoi gwybod i’r corff llywodraethu
- Cam 4: rhoi gwybod i’r awdurdod lleol
Ar bob cam fe ddylech chi gadw dyddiadur gan gofnodi pob cyswllt rydych chi wedi’i wneud a’i dderbyn, gan nodi:
- gyda phwy wnaethoch siarad
- sut y bu i chi gysylltu â nhw (e.e. dros y ffôn, e-bost, wyneb yn wyneb)
- pryd (dyddiad/amser)
- pa gamau gweithredu y cytunwyd arnynt a phwy sy’n gyfrifol amdanynt.
Sylwch: Peidiwch â mynd ar y cyfryngau cymdeithasol i gwyno am yr ysgol neu i sarhau, tramgwyddo neu fygwth staff yr ysgol. Gall hynny achosi mwy o ddrwg na lles ac ni fydd yn datrys unrhyw beth. Cofiwch, mae gan ysgolion ddyletswydd gofal i’w staff yn ogystal â’ch plentyn. Mewn achosion difrifol, gall yr ysgol gymryd camau cyfreithiol neu eraill yn eich erbyn os ydych chi’n peryglu staff.
Ni ddylech chi chwaith geisio datrys y mater eich hun ac wynebu’r plant neu’r bobl ifanc sy’n ymwneud â digwyddiad, neu eu teuluoedd, eich hun, boed hynny wyneb yn wyneb neu ar y cyfryngau cymdeithasol neu blatfformau ar-lein eraill.