Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Addysg, Plant a Phobl Ifanc Addysgu eich plentyn gartref

Addysgu eich plentyn gartref


Summary (optional)
Mae'r rhan fwyaf o rieni neu warcheidwaid yn penderfynu anfon eu plant i'r Ysgol i gael addysg, ond mae gennych yr hawl i ddewis addysgu eich plentyn gartref.
start content

Beth yw Addysg Ddewisol yn y Cartref?

Addysg Ddewisol yn y Cartref (EHE) yw dewis addysgu eich plentyn gartref yn hytrach na mewn Ysgol.  Nid oes angen i chi gael caniatâd gan yr awdurdod lleol i addysgu yn y cartref (oni bai bod eich plentyn wedi’i gofrestru mewn ysgol arbennig).  Nid oes rhaid i chi gadw at gwricwlwm, er y gall fod yn adnodd hwylus i gyfeirio ato.  Chi fydd yn penderfynu pa gyfleoedd dysgu y byddwch yn eu darparu a’r ffordd y bydd eich plant yn dysgu, ar yr amod bod yr addysg rydych yn ei darparu yn addysg ‘amser llawn’, ‘addas’, ac ‘effeithlon’.

Mae EHE yn wahanol i hyfforddiant cartref a all gael ei ddarparu gan yr Awdurdod Lleol pan fo plentyn â chyflwr meddygol sylweddol sy’n debygol o bara am nifer o wythnosau, a bod y dystiolaeth a ddarparwyd wedi ei chymeradwyo gan banel cymedroli fel ei bod yn bodloni’r meini prawf

Addysg ‘amser llawn’, ‘addas’, ac ‘effeithlon’?

Mae addysg yn ‘effeithlon’ os yw’n cyflawni’r hyn y mae’n bwriadu ei gyflawni ac mae’n ‘addas’ os yw’n paratoi’r plentyn ar gyfer bywyd mewn cymdeithas fodern waraidd ac yn galluogi’r plentyn i wireddu ei lawn botensial.  Mae hyn yn golygu y dylai fod yn fwriad i addysg alluogi’r plentyn, pan fydd yn oedolyn, i fod yn ddinesydd annibynnol y tu allan i’r gymuned y cafodd ei fagu ynddi, os yw’r plentyn yn dewis gwneud hynny yn ddiweddarach yn ei fywyd.  Rhaid i’r addysg fod yn addas ar gyfer oedran, gallu a doniau’r plentyn, ac unrhyw anghenion dysgu ychwanegol (neu anghenion addysgol arbennig) sydd ganddo, os oes rhai ganddo.

I deuluoedd sy'n addysgu yn y cartref, mae'n bosibl y bydd cyswllt un i un neu gyswllt grŵp parhaus, bron, ac mae'n bosibl cynnal yr addysg y tu allan i 'oriau ysgol' arferol.  Bydd y cwestiwn a yw'r addysg a roddir i blentyn penodol yn addysg ‘amser llawn’ yn dibynnu ar amgylchiadau pob achos, ond fel rhieni a gofalwyr, dylech allu o leiaf feintioli a dangos faint o amser y mae eich plentyn yn ei dreulio yn cael ei addysgu.  Mae'n debygol na fydd addysg y mae'n amlwg nad yw'n llenwi cyfran sylweddol o fywyd y plentyn yn bodloni'r gofyniad am addysg ‘amser llawn’.

Pwy sydd angen i mi ei hysbysu?

Mae'n hanfodol bod y penderfyniad i addysgu yn y cartref yn cael ei wneud gennych chi, a hynny o'ch gwirfodd.  Ni ddylai ysgol fyth eich annog i addysgu yn y cartref oherwydd ymddygiad gwael, cyrhaeddiad gwael neu bresenoldeb gwael eich plentyn.  Mae hyn yn arbennig o wir os yw awydd i osgoi gwaharddiad parhaol o'r ysgol neu erlyniad yn sgil diffyg presenoldeb yn yr ysgol yn dylanwadu ar eich penderfyniad i addysgu yn y cartref.  Os bydd unrhyw ysgol yn rhoi pwysau o'r fath arnoch i addysgu yn y cartref, dylech roi gwybod i'r awdurdod lleol.

Plentyn erioed wedi ei gofrestru mewn ysgol

Os nad yw eich plentyn erioed wedi'i gofrestru mewn ysgol a'ch bod yn penderfynu addysgu'ch plentyn gartref, nid yw'n ofynnol yn ôl y gyfraith i chi hysbysu'r awdurdod lleol.  Fodd bynnag, argymhellwn yn gryf eich bod yn cysylltu â'ch awdurdod lleol i roi gwybod iddo eich bod yn addysgu eich plentyn yn y cartref er mwyn iddo allu cysylltu â chi a chynnig ystod o gymorth.  Cysylltwch â'r tîm EHE am Ffurflen Gofrestru.

Plentyn wedi ei gofrestru mewn ysgol

Os ydych chi wedi penderfynu addysgu eich plentyn gartref ond ei fod wedi'i gofrestru mewn ysgol yn gyfredol, rhaid i chi roi gwybod i'r Pennaeth yn ysgrifenedig a gofyn iddo dynnu eich plentyn oddi ar y gofrestr.  Yna, bydd yr ysgol yn rhoi gwybod i ni ac yn tynnu eich plentyn oddi ar y gofrestr.  Os byddwch chi’n newid eich meddwl ar y pwynt hwn, bydd angen i chi wneud cais eto am le yn yr ysgol, gan gymryd bod lleoedd yn dal ar gael.

Os ydych yn credu o ddifrif nad yw ysgol bresennol eich plentyn yn addas, dylech hefyd drafod gyda'r awdurdod lleol i weld pa ddewisiadau eraill a allai fod ar gael cyn gwneud unrhyw benderfyniad i addysgu eich plentyn yn y cartref.

Gallwch hefyd gysylltu â Gwasanaeth Ymchwilio a Chyngor Comisiynydd Plant Cymru.  Mae'r gwasanaeth am ddim ac yn gyfrinachol, ac mae’n cynnig cyngor unigol ac yn ymchwilio i achosion unigol.  Ei ddiben yw cynnig cymorth a chefnogaeth os yw plant a phobl ifanc neu'r rhai sy'n gofalu amdanynt yn teimlo bod plentyn wedi cael ei drin mewn ffordd annheg.

Beth yw fy rhan fel rhiant*?

Eich cyfrifoldeb fel rhiant yw sicrhau fod yr hyn rydych yn ei addysgu yn helpu eich plentyn i ddysgu.  Rhaid i’r addysg rydych yn ei darparu fod yn effeithiol ac addas.  O dan adran 7 Deddf Addysg 1996, eich dyletswydd chi fel rhiant yw sicrhau bod eich plentyn yn derbyn addysg effeithiol lawn-amser ac addas ar gyfer eu hoedran, gallu a dawn ac ar gyfer unrhyw anghenion addysg ychwanegol sydd ganddynt.  Gellir gwneud hyn yn yr ysgol neu fel arall.  Mae addysg yn cael ei hystyried yn effeithiol ac addas os yw'n caniatáu i'r plentyn gyflawni eu potensial ac yn eu paratoi ar gyfer bywyd fel oedolyn.

Dylai eich addysg helpu eich plentyn i:

  • ennill gwybodaeth
  • gwneud cynnydd
  • cynyddu dealltwriaeth
  • datblygu sgiliau
  • meddwl a dysgu dros eu hunain

Chi piau'r dewis o ran athroniaeth a gall newid dros amser.  Eich cyfrifoldeb chi fydd rhoi enghreifftiau sy'n dangos addasrwydd darpariaeth addysg eich plentyn.  Wrth gynnig tystiolaeth o addasrwydd darpariaeth addysg eich plentyn, gallech, er enghraifft, ddarparu'r wybodaeth hon fel a ganlyn:

  • Adroddiad am eich darpariaeth.
  • Enghraifft o waith eich plentyn.
  • Cymeradwyaeth trydydd parti o’ch darpariaeth.
  • Tystiolaeth mewn ffurf addas arall

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru, 'Addysg yn y cartref: llawlyfr i addysgwyr yn y cartref'.

Beth yw rhan yr Awdurdod Lleol?

O dan adran 436A Deddf Addysg 1996, mae gan yr awdurdodau lleol ddyletswydd i nodi plant nad ydynt yn derbyn addysg addas.  Er mwyn i’r Awdurdod Lleol fodloni eu hunain ar addasrwydd yr addysg a ddarparwyd, mae’n rhesymol iddynt ofyn am y wybodaeth hon gennych.  Caiff awdurdodau lleol holi rhieni a gofalwyr yn anffurfiol am fanylion darpariaeth addysgol eu plentyn wrth iddo gyrraedd pump oed (oedran ysgol statudol).  Er nad ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio ac i ateb y cwestiynau hyn, byddai’n synhwyrol ichi wneud hynny.  Bydd yr ymholiadau hyn fel arfer ar ffurf llythyr, holiadur, neu ymweliad gan Swyddog Addysg.

Mae canllawiau statudol wedi’u datblygu er mwyn helpu awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswydd i sicrhau bod plant yn cael addysg addas.  Yn ogystal ag egluro nodweddion addysg addas, mae’r canllawiau statudol newydd yn atgyfnerthu’r opsiynau sydd ar gael i awdurdodau lleol pan fyddant yn penderfynu nad yw addysg addas yn cael ei darparu.  Mae’r canllawiau statudol hefyd yn egluro’r cymorth y gallai awdurdodau lleol ei gynnig i’r rheini sy’n addysgu yn y cartref o fewn eu hardal.

Os na fydd gan yr awdurdod lleol wybodaeth am yr addysg a ddarperir, bydd yn gorfod penderfynu p’un a yw’n ymddangos nad ydych yn cyflawni eich cyfrifoldeb i sicrhau bod eich plentyn yn cael addysg addas, lawn-amser, effeithlon.

Mwy o wybodaeth

*Mae'r term ‘rhiant’ mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc, yn cynnwys unrhyw berson nad yw'n un o rieni'r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhieni drosto, neu'n gofalu am y plentyn.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn arall neu'n ystyried Addysg Ddewisol yn y Cartref, cysylltwch â EHE@conwy.gov.uk.

end content