Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Addysg, Plant a Phobl Ifanc Gwasanaeth Cerdd Addysg Conwy

Gwasanaeth Cerdd Addysg Conwy


Summary (optional)

Croeso i Wasanaeth Celfyddydau Mynegiannol a Cherdd Conwy.

Mae’r Gwasanaeth Celf Mynegiannol yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau creadigol cyffrous i ysgolion Conwy dan arweiniad artistiaid, sy'n cynnwys dawns, drama, cerddoriaeth a chelf. Mae Gwasanaeth Cerdd Conwy yn cynnig hyfforddiant mewn cerddoriaeth i ddisgyblion 7-18 oed.

start content

Drwy gyfrwng gweithdai, prosiectau a digwyddiadau arbennig, mae Gwasanaeth Celfyddydau Mynegiannol Conwy yn galluogi plant a phobl ifanc i archwilio eu creadigrwydd a datblygu sgiliau newydd.

Ar hyn o bryd, rydym yn cynnig gwersi offerynnol i ddisgyblion yn yr ysgol ac rydym bellach mewn sefyllfa i allu cynyddu ein darpariaeth dros amser i gynnwys:

  • Gwersi offerynnol cwricwlaidd yn y dosbarth 
  • Prosiectau dosbarth Cwricwlaidd/Cwricwlwm i Gymru
  • Grwpiau Cerddorol
  • Digwyddiadau grŵp penodol er mwyn targedu grwpiau allweddol o ddysgwyr
  • Gweithdai ymarferol
  • Cymorth cwricwlaidd i gefnogi disgyblion oedran arholiadau
  • Gweithgareddau a digwyddiadau allgyrsiol
  • Grwpiau Cerdd ac ensemblau sirol

Darpariaeth Gyfredol

Mae Gwasanaeth Cerdd Conwy yn cynnig cyfle i bob disgybl rhwng 7 a 18 oed ddysgu gyda thiwtoriaid arbenigol.

music-notes-image_150x150

Mae Gwasanaeth Cerdd Conwy yn cynnig:

  • Llinynnau: ffidil, fiola, soddgrwth a bas dwbl
  • Pres: cornet, trwmped, trombôn, corn tenor, ewffoniwm, corn Ffrengig a thiwba
  • Chwythbrennau: ffliwt, clarinét, sacsoffon, obo a basŵn
  • Telyn
  • Gitâr: gitâr acwstig clasurol, trydan a bas
  • Offerynau taro: cit drwm, timpani ac offerynnau taro tiwniedig
  • Llais
  • Allweddellau

Nid yw pob offeryn ar gael ym mhob ysgol, ond beth am siarad ag ysgol eich plentyn i weld a ellir cyflwyno offeryn newydd?

Manteision dysgu cerddoriaeth

Mae plant sy'n dysgu chwarae offeryn yn:

  • Gwneud yn well yn yr ysgol
  • Hapusach ac yn iachach
  • Cyfarfod plant ac athrawon eraill mewn sefyllfaoedd cymdeithasol newydd
  • Datblygu sgiliau – gwaith tîm, canolbwyntio, hunanddisgyblaeth, cof
  • Magu hyder a hunan barch

Cychwyn gwersi

Siaradwch â’r ysgol am yr hyfforddiant cerdd sydd ar gael a gwnewch gais i Bennaeth yr ysgol, y Pennaeth Cerdd neu’r Cydlynydd Cerdd.

Gall eich plentyn gymryd rhan mewn sesiwn flasu, cyfarfod y tiwtor a rhoi cynnig ar offeryn. Ar ôl y sesiwn flasu, gallwch gytuno ar ddyddiad cychwyn gwersi gyda'r ysgol.

Mae mwyafrif o ddisgyblion yn dechrau derbyn gwersi ym mis Medi, os oes ychwanegiad arol yr amser yma, efallai na fydd gwers yn gael ei gadarnhau yn ol argaledd y tiwtor.  Does dim modd archebu gwersi arol y 4ydd wythnos yn y tymor gan bod hi’n sefyllfa annodd i gwblhau yr holl oriau.

Mae gwersi cerdd fel arfer yn cael eu darparu yn yr ysgol yn ystod oriau ysgol arferol. Bydd ysgolion uwchradd fel arfer yn trefnu rota fel nad yw disgyblion yn colli’r un wers bob wythnos.

Caiff y disgyblion eu haddysgu mewn grwpiau bychain, mewn parau neu’n unigol, yn dibynnu ar yr offeryn. Bydd disgyblion o safon debyg yn aml yn cael eu rhoi mewn grŵp gyda’i gilydd.

acoustic-guitar-image

Offerynnau

Mae ysgolion yn cael benthyca offerynnau am ddim, ac yna'n rhoi eu benthyg am ddim i’r disgybl (ar wahân i'r delyn, offerynnau taro ac allweddellau / piano). Gellir benthyca offeryn am hyd at dair blynedd.

Ar ôl cadarnhau diddordeb y disgybl, mae rhieni'n cael eu hannog i brynu eu hofferyn eu hunain i’w plentyn.

Mae AIPS (Cynllun Cymorth i Brynu Offeryn) yn helpu ysgolion i brynu offerynnau ar gyfer gwersi wythnosol a’u gwerthu i rieni heb TAW – arbediad go iawn.

Mae offerynnau yn ddrud ac yn werthfawr. Rydym yn disgwyl i ddisgyblion drin yr offerynnau gyda pharch ac yn ôl cyfarwyddiadau eu tiwtor.

Fe allwn ni eich helpu chi i logi telyn am flwyddyn am bris rhesymol iawn. Trafodwch y mater gyda’n tiwtor telyn.

Costau

Mae’r awdurdod leol yn cynnig y wasanaeth ac yn rhoi y ffioedd mewn lle. Mae’r taliadau yn cael eu chasglu yn uniongyrchol gan defnyddio system archebu y sir. Mae’n rhaid archebu gwers o fewn y 3 wythnos gyntaf o’r tymor.

Cost fesul gwers yw £7. Yn dibynnu ar y sefyllfa, efallai bydd eich plentyn yn derbyn gwersi yn unigol neu mewn grwp. Os yw eich plentyn yn derbyn gwersi ar ail offeryn neu mae brawd/chwaer yn derbyn gwersi hefyd, bydd y ffi yn lleihau i £5.

Mae’r disgyblion hynny sy'n gymwys am ginio ysgol am ddim yn cael eu gwersi am ddim.  Yn yr ysgol uwchradd, gall disgyblion gael gwersi estynedig am gost ychwanegol. Cynigir y gwasanaeth am 32 wythnos y flwyddyn ond gallai hynny amrywio rhywfaint o ysgol i ysgol. 

Bydd angen talu'r ffioedd fesul tymor neu flwyddyn. Nid oes posib cael ad-daliad os yw eich plentyn yn rhoi'r gorau i'r gwersi cyn diwedd y tymor gan fod cost ac amserlen y tiwtoriaid eisoes wedi'u dyrannu.

Yn dibynnu ar yr offeryn, efallai y bydd angen i chi brynu llyfr tiwtor ac eitemau bychain fel llinynnau, corsennau ac olewon. Bydd y tiwtor yn eich cynghori am hyn.

Bydd angen talu ffioedd i sefyll arholiadau cerdd gyda bwrdd cerdd cydnabyddedig fel yr ABRSM. Efallai y gofynnir i chi gyfrannu tuag at gost cyfeilydd.

Sut allwch chi helpu eich plentyn

Mae dysgu chwarae offeryn neu ddysgu canu yn werth chweil AC yn her. Gallwch helpu eich plentyn trwy eu hatgoffa i gofio mynd â'u hofferyn a'u cerddoriaeth i'r ysgol ar ddiwrnod y wers a'u hannog i ymarfer yn rheolaidd.

Manylion Cyswllt

Hoffai’r Awdurdod Lleol ddiolch i’r ysgolion am eu cefnogaeth i'r gwasanaeth cerdd ac am roi cyfle mor bwysig i’w disgyblion.

Cysylltwch â celfacherdd@conwy.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth neu os oes gennych ymholiadau.

kids

end content