Nod prosiect TRAC yw cefnogi pobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed sydd mewn perygl o ymddieithrio rhag addysg ac o fod yn NEET (heb fod mewn addysg, gwaith na hyfforddiant). Mae Tîm TRAC Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cefnogi pobl ifanc o oedran ysgol uwchradd (11 i 16 oed).
Nod TRAC yw sicrhau bod pobl ifanc sydd mewn perygl o ymddieithrio ac o fod yn NEET yn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i lwyddo fel oedolion. Bydd cyfranogwyr yn elwa o welliannau i’w hiechyd a’u lles yn gyffredinol.
Mae’r tîm yn gweithio'n agos gydag ysgolion, adrannau eraill yr awdurdod lleol, colegau addysg bellach a darparwyr dysgu yn y gweithle i ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr o fewn y sir.
Caiff y prosiect ei ddarparu gan dîm yng Nghonwy ac mae’n cynnwys ymyriadau fel:
- cymorth un i un o ran lles a chynllunio ar gyfer y dyfodol
- cymorth cwnsela un i un
- gweithdai therapiwtig sy’n edrych ar ymddygiad a ffactorau lles eraill
- mynediad at gyrsiau achrededig a heb eu hachredu a gyflwynir gan ddarparwyr TRAC
- cymorth gyda phrofiad gwaith
Cysylltwch â thîm trac:
Ffôn 01492 575118
E-bost TRAC@conwy.gov.uk