Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Addysg, Plant a Phobl Ifanc Cludiant Ysgol Ymgynghoriad Y gyllideb cludiant o'r cartref i'r ysgol

Ymgynghoriad Cludiant Ysgol: Y gyllideb cludiant o'r cartref i'r ysgol


Summary (optional)
start content

Yn 2021-2022, gwariodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy oddeutu £5.8 miliwn ar gludiant o’r cartref i’r ysgol ac oddeutu £6.5 miliwn yn 2022-2023.

Mae sawl rheswm dros y cynnydd yn y costau: 

  • Cynnydd mewn costau teithio (tanwydd, gwasanaethu, atgyweirio, ac ati)
  • Problemau o ran capasiti (prinder cerbydau a gyrwyr)
  • Problemau cyflenwi (diffyg gweithredwyr cludiant)
  • Cynnydd yn y ddarpariaeth cludiant o’r cartref i’r ysgol y tu allan i rwymedigaethau statudol
  • Cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â’r ddarpariaeth briodol o gludiant o'r cartref i'r ysgol i ddysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) gan gynnwys cerbydau arbenigol a chynorthwywyr teithio
  • Trafferthion â lleihau neu ddirymu darpariaeth cludiant os yw amgylchiadau neu sefyllfa disgybl yn newid

Canran bras y gwariant ar Gludiant o’r Cartref i’r Ysgol fesul meini prawf yn 2022-2023:

Cludiant statudol ac eithrio ADY: 39%; Disgyblion ag anghenion meddygol neu anghenion dysgu ychwanegol (statudol ac anstatudol): 32%; Ysgolion cyfrwng Cymraeg: 14%; Ôl-16: 10%; Ysgolion enwadol: 3%; Costau dewisol eraill: 2%

Tudalen flaenorol: Beth sy'n rhaid i awdurdodau lleol ei ddarparu?

end content