Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Arolwg am Gludiant Ysgol Am Ddim yng Nghonwy: Adroddiad Adborth


Summary (optional)
start content

Rhwng 1 Chwefror 2024 a 4 Ebrill 2024, fe wnaethom ofyn i bobl beth oedd eu barn am y cludiant ysgol yr ydym yn dewis ei roi i rai dysgwyr.

Yn 2023, helpodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy 3,900 o ddysgwyr i gyrraedd yr ysgol bob dydd ar gludiant ysgol am ddim:

  • 48% mae’n rhaid i ni ddarparu cludiant ar eu cyfer
  • 52% rydym yn dewis eu helpu

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae costau cludiant i’r ysgol wedi codi o £5.8 miliwn i £6.5 miliwn. Mae hynny’n £700,000 yn ychwanegol oherwydd cynnydd mewn costau tanwydd, nifer y dysgwyr sydd angen cefnogaeth, a chostau eraill.

Cymerodd 1123 o bobl ran

  • Rhieni plant dan 16 oed: 786
  • Rhieni plant 16 oed ac yn hŷn: 62
  • Disgyblion 16-18 oed: 40
  • Disgyblion dan 16 oed: 30
  • Athrawon a staff: 50
  • Llywodraethwyr: 22
  • Gweithredwyr cludiant: 9
  • Cynghorwyr: 5
  • Y cyhoedd: 74
  • Eraill: 45

Dywedodd 529 o bobl a gymerodd ran yn yr arolwg eu bod yn cael cludiant ysgol am ddim rŵan.

O bobl a ymatebodd gan ddarparu eu manylion, mae 75% yn byw mewn tref, a 25% yn byw mewn ardal wledig.

Ni wnaethant ateb bob cwestiwn - dim ond y rhai a oedd o ddiddordeb iddyn nhw.

Tudalen nesaf: Ymatebion i ran 1

end content