Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Addysg, Plant a Phobl Ifanc Cludiant Ysgol Ymgynghoriad Adborth Rhan 3 - Cludiant ysgol i ysgolion enwadol ac ysgolion ffydd

Adroddiad Adborth: Rhan 3 - Cludiant ysgol i ysgolion enwadol ac ysgolion ffydd


Summary (optional)
start content

Rydym ni’n rhoi cludiant am ddim i ddisgyblion sy’n dewis mynd i ysgol enwadol neu ysgolion ffydd.

Cwestiwn 1:  Dylem barhau i roi cludiant ysgol am ddim i ddysgwyr sy’n byw o fewn dalgylch ysgol enwadol.

Cwestiwn 2:  Dylai rhieni sy’n gwneud cais am gludiant ysgol i ysgol enwadol orfod rhoi tystiolaeth o’u ffydd (fel tystysgrif bedydd neu lythyr gan eu heglwys neu arweinydd ffydd).

Atebodd 207 o bobl y cwestiwn hwn.

Ymatebion i gwestiwn 1

  • Cytuno'n gryf: 76
  • Cytuno: 34
  • Niwtral: 12
  • Anghytuno: 34
  • Anghytuno'n gryf: 51

Ymatebion i gwestiwn 2

  • Cytuno'n gryf: 80
  • Cytuno: 50
  • Niwtral: 21
  • Anghytuno: 31
  • Anghytuno'n gryf: 25

Y rheolau

Rhaid i ddysgwyr fyw:

  • 2 filltir neu fwy i ffwrdd o ysgol gynradd enwadol eu dalgylch
  • 3 milltir neu fwy i ffwrdd o’u ysgol uwchradd enwadol eu dalgylch

Rydym ni’n gwneud hyn hyd yn oed os oes ysgol arall yn agosach.

Rhaid i ddysgwyr hefyd fod y tu mewn i ddalgylch yr ysgol enwadol. 

 Mae cynghorau’n nodi dalgylch ar gyfer pob ysgol. Mae’n ardal ddaearyddol benodol o amgylch ysgol lle mae’r rhan fwyaf o’i dysgwyr yn byw.

Rhai sylwadau

"Hoffem ddiolch yn fawr iawn am y gwasanaeth cludiant gwych yr ydym wedi’i dderbyn dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’n cael ei werthfawrogi’n fawr ac yn helpu ein teulu nid yn unig i adael i’n plant fynychu ysgol ffydd ond hefyd yn eu helpu i fynychu’r ysgol o gwbl. Heb y gwasanaeth cludiant ysgol am ddim, byddai’n rhaid i ni gadw ein plant gartref a’u haddysgu gartref..."

"Heb y tacsi ysgol sy’n cludo fy mhlant bob dydd ni fyddent yn gallu mynychu ysgol Gatholig sef crefydd ein teulu. Mae’r tacsi ysgol yn fendith."

"Ni ddylid darparu cludiant am ddim i’r ysgol ar sail crefydd neu iaith yn unig.  Gellid ei ariannu’n rhannol gyda’r rhieni’n talu hefyd gan mai dewis y rhieni yw mynd yno heb unrhyw reidrwydd i wneud hynny."

 

Tudalen nesaf: Ymatebion i ran 4
Tudalen flaenorol: Ymatebion i ran 2
 

end content