Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Adroddiad Adborth: Rhan 8 - Cludiant ysgol am resymau eraill


Summary (optional)
start content

Weithiau rydym ni’n rhoi cludiant ysgol am ddim i ddysgwyr sydd:

  • yn bryderus neu’n ffobig am fynd i’r ysgol ac angen help i fynychu
  • yn agored i niwed ac angen eu cadw’n ddiogel rhag niwed
  • yn risg iddyn nhw eu hunain neu bobl eraill yn y gymuned

Cwestiwn: Dylem barhau i roi cludiant ysgol am ddim i ddysgwyr sy’n bodloni’r rhesymau eraill uchod, hyd yn oed os ydynt yn byw yn agos i’r ysgol.

Atebodd 200 o bobl y cwestiwn hwn.

Ymatebion

  • Cytuno’n gryf : 51
  • Cytuno: 66
  • Niwtral: 25
  • Anghytuno: 35
  • Anghytuno'n gryf: 23

Y rheolau

Mae dysgwyr yn cael y cymorth hwn hyd yn oed os ydynt yn byw yn agosach at yr ysgol. Efallai na fyddwn ni’n dilyn yr un rheolau o ran pellter. 

Rydym ni’n gwirio i sicrhau bod dysgwyr yn bodloni’r holl ganllawiau.

Rhai sylwadau

"Rydym yn aelwyd ag un car gyda’r ddau riant yn gweithio. Ni all ein mab wneud ei ffordd ei hun i’r ysgol gan fod yr uned ymddygiad 2.5 milltir i ffwrdd o’n cartref ac nid oes bysiau rheolaidd. Nid ein dewis ni oedd ei anfon yno; cafodd ei orfodi gan nad oes unrhyw beth arall ar gael iddo. Felly mae’n ddyletswydd ar y cyngor i sicrhau ei fod yn cyrraedd yr ysgol."

 

Tudalen nesaf: Y camau nesaf
Tudalen flaenorol: Ymatebion i ran 7

end content