Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Adroddiad Adborth: Rhan 6 - Cludiant i ddysgwyr Ôl-16


Summary (optional)
start content

Rydym ni weithiau’n rhoi cludiant am ddim i ddysgwyr 16 i 18 mlwydd oed sy’n astudio’n llawn amser.

Cwestiwn 1:  Dylem barhau i roi cludiant am ddim i ddysgwyr ôl-16.

Cwestiwn 2:  Dylem ond rhoi cludiant am ddim i’r chweched dosbarth neu’r coleg agosaf, hyd yn oed os nad yw’n cynnig y cyrsiau mae’r dysgwr eu heisiau.

Atebodd 312 o bobl y cwestiynau hyn.

Ymatebion i gwestiwn 1

  • Cytuno'n gryf: 201
  • Cytuno: 57
  • Niwtral: 8
  • Anghytuno: 19
  • Anghytuno'n gryf: 27

Ymatebion i gwestiwn 2

  • Cytuno'n gryf: 27
  • Cytuno: 36
  • Niwtral: 27
  • Anghytuno: 84
  • Anghytuno'n gryf: 138

Y rheolau

Rhaid i ddysgwyr fyw 3 milltir neu fwy oddi wrth eu hysgol uwchradd neu leoliad addysg ôl-16 arall agosaf.

Rydym ni’n cludo i’r lleoliad agosaf sy’n cynnig y rhan fwyaf o’r cyrsiau maen nhw am eu hastudio.

Efallai y bydd rhaid i ddysgwyr gyrraedd y pwyntiau casglu ar gyfer cludiant.

Rhai sylwadau

"Dylai pob plentyn cymwys dderbyn cludiant am ddim oherwydd hebddo, y cyfan y mae’n ei greu yw rhwystrau pellach i dderbyn addysg pan fo cymaint o rwystrau amgylcheddol, ariannol ac emosiynol eisoes yn bodoli."

"Cofiwch am blant cefn gwlad sy’n gwbl ddibynnol ar gludiant i’r ysgol. Nid ydym mewn sefyllfa i ddibynnu ar na defnyddio cludiant cyhoeddus gan nad yw’n ddigonol yn yr ardal."

"Dylai rhieni / gwarcheidwaid fod yn gyfrifol am sicrhau bod eu plant yn cyrraedd yr ysgol.  Mae’n ddewis ‘braf i’w gael’ os gall y cyngor fforddio gwneud hynny, ond ar hyn o bryd nid yw hynny’n wir."

"Dylai myfyrwyr ôl-16 fod yn yr un sefyllfa ag unrhyw un nad yw mewn addysg sy’n gorfod talu ei ffordd ei hun; nid ydych yn derbyn unrhyw gymorth cludiant os ydych yn hunangyflogedig, yn gyflogedig, yn brentis ac ati."

"Dylid rhoi pob cefnogaeth i fyfyrwyr ôl-16 i’w cadw mewn addysg."

"Dylai Conwy roi cymaint o gyfleoedd ag sy’n bosibl i’n pobl ifanc lwyddo - nhw yw ein dyfodol."

 

Tudalen nesaf: Ymatebion i ran 7
Tudalen flaenorol: Ymatebion i ran 5

end content