Rydym ni weithiau’n rhoi cludiant ysgol am ddim i ddysgwyr sy’n byw mewn mwy nag un cyfeiriad yn ystod yr wythnos ysgol.
Cwestiwn 1: Dim ond o brif gartref y dysgwyr y dylem ni roi cludiant am ddim.
Cwestiwn 2: Dim ond o gartrefi o fewn Sir Conwy y dylem ni roi cludiant am ddim.
Atebodd 172 o bobl y cwestiynau hyn.
Ymatebion i gwestiwn 1
- Cytuno'n gryf: 43
- Cytuno: 42
- Niwtral: 6
- Anghytuno: 29
- Anghytuno'n gryf: 52
Ymatebion i gwestiwn 2
- Cytuno'n gryf: 53
- Cytuno: 46
- Niwtral: 5
- Anghytuno: 29
- Anghytuno'n gryf: 39
Y rheolau
I gael cludiant am ddim, rhaid i'r cyfeiriad fod:
- 2 filltir neu fwy oddi wrth eu hysgol gynradd agosaf
- 3 milltir neu fwy oddi wrth eu hysgol uwchradd agosaf
- llai na 10 milltir o ysgol y dysgwr
Er mwyn cael cludiant am ddim o’r ddau gartref, rhaid i ddysgwyr fyw yn rheolaidd yng nghyfeiriadau’r ddau riant, naill ai ar ddyddiau gwahanol o’r wythnos neu bob yn ail wythnos.
Nid ydym yn rhoi cludiant am ddim o gyfeiriad os nad yw’r dysgwr yn aros yno’n rheolaidd.
Rhaid i’r prif gyfeiriad fod o fewn Sir Conwy, ond gall yr ail gyfeiriad fod mewn sir arall.
Rhai sylwadau
"Mor bwysig!!! Nid oes cludiant arall ar gael mewn ardaloedd gwledig. Dylai fod yn flaenoriaeth."
"Mae ein cyllideb yn gyfyngedig. Mae angen i ni ystyried hyn yn ofalus a blaenoriaethu’r rheiny sydd angen y cludiant hwn fwyaf. Os gall rhieni fynd â’u plant i’r ysgol, yna dylai hynny gael ei ystyried yn gyntaf."
Tudalen nesaf: Ymatebion i ran 6
Tudalen flaenorol: Ymatebion i ran 4