Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Addysg, Plant a Phobl Ifanc Cludiant Ysgol Ymgynghoriad Adborth Rhan 1 - Cludiant ysgol i ysgolion cyfrwng Cymraeg

Adroddiad Adborth: Rhan 1 - Cludiant ysgol i ysgolion cyfrwng Cymraeg


Summary (optional)
start content

Rydym ni’n rhoi cludiant am ddim i ddysgwyr sy’n mynd i ysgol cyfrwng Cymraeg.

Cwestiwn:  A ddylem barhau i roi cludiant am ddim i ddysgwyr sy’n mynd i’w hysgol cyfrwng Cymraeg agosaf?

Atebodd 848 o bobl y cwestiwn hwn.

Ymatebion

  • Cytuno'n gryf: 689
  • Cytuno: 92
  • Niwatral: 10
  • Anghytuno: 26
  • Anghytuno'n gryf: 31

Y rheolau

Rhaid i ddysgwyr fyw:

  • 2 filltir neu fwy oddi wrth eu hysgol gynradd cyfrwng Cymraeg agosaf
  • 3 milltir neu fwy oddi wrth eu hysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg agosaf

Rydym ni’n gwneud hyn hyd yn oed os oes ysgol arall yn nes er mwyn hybu’r Gymraeg.

Rhai sylwadau

"Rhaid peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg ac mae gan Lywodraeth Cymru strategaeth y Gymraeg, sef Cymraeg 2050, ac mae llwybr i addysg cyfrwng Cymraeg i gynifer o blant ag sy’n bosibl yn parhau i fod yn un o’u blaenoriaethau. Pe bai cludiant ysgol yn cael ei dynnu oddi ar blant sydd am gael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg, byddai hyn yn mynd yn groes i’r ethos / safonau yr ydym yn ceisio eu cyflawni."

"Byddai cael gwared ar gludiant i ysgolion cyfrwng Cymraeg yn golygu na fyddai ein plentyn yn gallu mynychu ysgol Gymraeg. Gallai hyn gael effaith negyddol arni gan ein bod yn aelwyd Gymraeg a gallai cael gwared ar gludiant gael goblygiadau pellach i’w chyfleoedd gyrfaol yn y dyfodol."

"Rhowch y cyfleoedd i blant y dyfodol ffynnu ym mhob agwedd ar addysg drwy gefnogi ein hiaith Gymraeg os gwelwch yn dda."

 

Tudalen nesaf: Ymatebion i ran 2
Tudalen flaenorol: Cyflwyniad

 

end content