Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Addysg, Plant a Phobl Ifanc Cludiant Ysgol Ymgynghoriad Adborth Rhan 2 - Cludiant ysgol i ddysgwyr ysgol uwchradd sy'n symud tŷ yn ystod eu blynyddoedd arholiad

Adroddiad Adborth: Rhan 2 - Cludiant ysgol i ddysgwyr ysgol uwchradd sy'n symud tŷ yn ystod eu blynyddoedd arholiad


Summary (optional)
start content

Rydym ni’n rhoi cludiant am ddim i ddysgwyr ysgol uwchradd y mae eu teuluoedd yn symud yn ystod eu blynyddoedd arholiad.

Cwestiwn:  A ddylem barhau i roi cludiant ysgol am ddim i ddysgwyr sy’n symud tŷ yn ystod eu blynyddoedd arholiad?

Atebodd 182 o bobl y cwestiwn hwn.

Ymatebion

  • Cytuno'n gryf: 62
  • Cytuno: 41
  • Niwtral: 11
  • Anghytuno: 33
  • Anghytuno'n gryf: 35

Y rheolau

Rhaid i’r cartref newydd fod 3 milltir neu fwy oddi wrth yr ysgol uwchradd maen nhw’n ei mynychu.

Mae’r symud yn digwydd:

  • ar ôl hanner tymor mis Hydref ym Mlwyddyn 10
  • ar unrhyw adeg ym Mlwyddyn 11
  • ar ôl hanner tymor mis Hydref ym Mlwyddyn 12

Os bydd y symud yn digwydd cyn hynny, gall dysgwyr naill ai symud i’r ysgol uwchradd agosaf neu ddod o hyd i’w cludiant eu hunain os ydyn nhw am aros yn yr ysgol. 

Rhai sylwadau

"Os yw teulu yn cael ei symud heb unrhyw fai arnyn nhw e.e. tŷ mewn argyfwng, yna dylid darparu cludiant i blant, yn enwedig yn ystod blynyddoedd arholiadau, os yw’r rheolau arferol yn berthnasol o ran pellter o’u hysgolion."

"Nid bai na dewis yr unigolyn ifanc yw ble mae’n byw neu’n byw yn rhan amser."

 

Tudalen nesaf: Ymatebion i ran 3
Tudalen flaenorol: Ymatebion i ran 1

end content