Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Addysg, Plant a Phobl Ifanc Cludiant Ysgol Ymgynghoriad Adborth Rhan 7 - Cludiant ysgol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion meddygol

Adroddiad Adborth: Rhan 7 - Cludiant ysgol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion meddygol


Summary (optional)
start content

Rydym ni’n darparu cludiant ysgol am ddim i unrhyw ddysgwr sydd â chludiant wedi’i nodi ar ei Gynllun Datblygu Unigol (CDU) neu Ddatganiad Anghenion Addysgol.

Weithiau byddwn ni’n rhoi cludiant ysgol am ddim i ddysgwyr eraill sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, cyflwr meddygol neu anabledd.

Cwestiwn 1:  Dylai rhieni a gofalwyr (ar gyfer dysgwyr ag anghenion meddygol neu anghenion dysgu ychwanegol ac sy’n byw yn agos at ysgol) orfod rhoi tystiolaeth (gan weithwyr meddygol a/neu weithwyr addysgol proffesiynol) cyn cael cludiant am ddim i’r ysgol.

Cwestiwn 2:  Dylem adolygu cludiant dysgwyr ag anghenion dysgu meddygol neu ychwanegol bob blwyddyn a gwirio a allant deithio’n annibynnol wrth iddynt dyfu a datblygu.

Cwestiwn 3:  Dylem barhau i gefnogi dysgwyr ag anghenion meddygol neu anghenion dysgu ychwanegol i weithio tuag at deithio’n annibynnol.

Atebodd 311 o bobl y cwestiwn hwn.

Ymatebion i gwestiwn 1

  • Cytuno'n gryf: 95
  • Cytuno: 123
  • Niwtral: 31
  • Anghytuno: 29
  • Anghytuno'n gryf: 33

Ymatebion i gwestiwn 2

  • Cytuno'n gryf: 93
  • Cytuno: 119
  • Niwtral: 29
  • Anghytuno: 35
  • Anghytuno'n gryf: 35

Ymatebion i gwestiwn 3

  • Cytuno'n gryf: 108
  • Cytuno: 121
  • Niwtral: 43
  • Anghytuno: 18
  • Anghytuno'n gryf: 21

Y rheolau

Rhaid i ddysgwyr fyw:

  • 2 filltir neu fwy i ffwrdd o’u hysgol gynradd agosaf
  • 3 milltir neu fwy i ffwrdd o’u hysgol uwchradd agosaf

Mae gan y rhan fwyaf o ddysgwyr sy’n cael cludiant am ddim CDU neu Ddatganiad Anghenion Addysgol.

Bob blwyddyn, gallwn wirio i sicrhau bod angen eu cludiant am ddim o hyd.

Efallai y byddant, yn ôl eu hanghenion, yn teithio gyda chynorthwyydd teithwyr ac mewn cerbydau arbennig. 

Rhai sylwadau

"Credaf y dylai pob plentyn a phob achos gael ei ystyried yn unigol. Mae gwahanol blant yn byw mewn gwahanol sefyllfaoedd ac mae ganddyn nhw wahanol alluoedd."

"Credaf y dylai cludiant am ddim gael ei flaenoriaethu ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol."

"Ni fyddai llawer o ddisgyblion ag ADY yn Ysgol y Gogarth yn gallu teithio’n annibynnol. Byddai adolygu hyn bob blwyddyn yn gostus i Gonwy ac yn straen i deuluoedd a’r unigolyn ifanc."

"Mae hefyd yn rhoi sgiliau a hyder iddynt fyw’n annibynnol gan mai dim ond gyda’u rhiant neu ofalwr y bydd y rhan fwyaf o blant wedi teithio. Maent hefyd yn teimlo’n ddiogel ac yn adnabod eu siwrnai ac yn ennill sgiliau cymdeithasol gyda’u cymdeithion. Pob un yn ennill sgiliau bywyd mewn man diogel."

"I ddysgwyr ag ADY mae darparu gwasanaeth cyson yn rhoi carreg gamu iddynt yn eu hannibyniaeth ac yn datblygu’r annibyniaeth honno na fyddai fel arall yn bresennol oherwydd dibyniaeth ar rieni a gwarcheidwaid."

"Er fy mod yn cytuno y dylid cefnogi dysgwyr i fod yn fwy annibynnol, teimlaf mai dim ond os yw’n ddiogel ac yn briodol i wneud hynny y dylai’r cyfnod pontio hwn ddigwydd ac na ddylai’r penderfyniad i roi’r gorau i ddarparu cludiant ysgol fyth gael ei ysgogi gan gostau. Mae bywyd yn anodd i rieni plant ag ADY ac mae gwybod eu bod yn ddiogel ac yn cael eu cefnogi i gyrraedd yr ysgol ac yn ôl yn hynod bwysig."

"Mae rhwystrau sylweddol eisoes yn achosi diffyg presenoldeb, a bydd rhoi’r gorau i ddarparu cludiant i’r rhai mwyaf diamddiffyn ac anghenus yn creu mwy o broblemau. Credaf yn gryf y dylech barhau i gynnwys amod ‘amgylchiadau arbennig’, os daw’r cais gan weithiwr proffesiynol sydd â gwybodaeth ymarferol dda a mewnwelediad i’r materion sy’n atal presenoldeb yn yr ysgol."

"Fel rhiant plentyn ag anableddau dysgu nad yw’n gyrru, mae cludiant am ddim i’r ysgol yn angenrheidiol i mi, ond wrth i fy mhlentyn fynd yn hŷn, hoffwn gael cymorth ychwanegol iddi allu teithio ar gludiant cyhoeddus yn annibynnol."

 

Tudalen nesaf: Ymatebion i ran 8
Tudalen flaenorol: Ymatebion i ran 6

end content