Mae’n rhaid i awdurdodau lleol gydymffurfio â deddfwriaeth wrth ddarparu cludiant am ddim o’r cartref i’r ysgol.
Mae’n rhaid i awdurdodau lleol:
- Asesu anghenion teithio dysgwyr yn ardal eu hawdurdod
- Darparu cludiant o'r cartref i'r ysgol yn rhad ac am ddim i ddysgwyr o oedran ysgol gorfodol (5 - 16 oed) sy’n mynd i ysgol gynradd ac sy’n byw 2 filltir neu fwy oddi wrth eu hysgol addas agosaf
- Darparu cludiant o'r cartref i'r ysgol yn rhad ac am ddim i ddysgwyr o oedran ysgol gorfodol (5 - 16 oed) sy’n mynd i ysgol uwchradd ac sy’n byw 3 milltir neu fwy oddi wrth eu hysgol addas agosaf
- Asesu anghenion plant sy’n “derbyn gofal” yn ardal eu hawdurdod a bodloni’r anghenion hyn
- Hyrwyddo dulliau cynaliadwy o deithio
Gan fod rhaid i’r Awdurdod Lleol gydymffurfio â’r gofynion uchod, nid ydym yn ymgynghori ar yr agweddau hyn o’n polisi presennol.
Mae gan awdurdodau lleol hefyd rymoedd i ddarparu cludiant o’r cartref i’r ysgol am resymau eraill a hoffem glywed eich barn ar ein meini prawf dewisol yn yr ymgynghoriad hwn.
Mae meini prawf dewisol Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol presennol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fel a ganlyn:
- Cludiant i ysgolion cyfrwng Cymraeg dros bellter statudol pan nad dyna'r ysgol agosaf
- Cludiant i ddysgwyr sy’n newid cyfeiriad yn ystod blynyddoedd arholiadau eu haddysg er mwyn eu galluogi i aros yn yr un ysgol • Cludiant i ysgolion enwadol dros bellter statudol
- Cludiant i blant Teithwyr Sipsiwn Roma o fewn y pellter statudol
- Cludiant i ddwy breswylfa ar gyfer plant y mae eu rhieni’n byw ar wahân
- Cludiant ôl 16 dros y pellter statudol i sefydliadau sy’n darparu’r pynciau y mae’r disgyblion yn dymuno eu hastudio ar ôl iddynt droi’n 16 oed
- Cludiant i ddisgyblion â chyflyrau meddygol neu anghenion dysgu ychwanegol (ADY) • Cludiant i ddisgyblion sy’n bodloni’r meini prawf ymddygiad a nodwyd
Bob blwyddyn, rydym yn darparu cludiant i oddeutu 4000 o ddysgwyr, ac mae ychydig yn llai na hanner y dysgwyr hynny’n derbyn cludiant am resymau statudol.
Gellir rhannu’r dysgwyr sy’n derbyn cludiant am ddim yn seiliedig ar feini prawf dewisol fel a ganlyn:
Tudalen nesaf: Y gyllideb cludiant o'r cartref i'r ysgol
Tudalen flaenorol: Pam ydym ni’n ymgynghori rŵan?