Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ymgynghoriad Cludiant Ysgol: Pam ydym ni'n ymgynghori rŵan?


Summary (optional)
start content

Ystyrir bod cludiant i’r ysgol yn un o’r costau sy’n cynyddu gyflymaf yng nghyllideb flynyddol awdurdodau lleol, felly mae’n bwysig ein bod yn adolygu’r gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu.

Yn 2022-2023, gwariodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy oddeutu £6.5 miliwn ar gludiant o’r cartref i’r ysgol.  Roedd oddeutu hanner y swm hwn ar gyfer cludiant a ddarperir fel dyletswydd statudol. Fodd bynnag, roedd y gweddill ar gyfer cludiant a ddarperir ar sail disgresiwn.

Yng nghyfarfod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ym mis Hydref 2023, cytunwyd y dylid cwblhau ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu barn unigolion neu sefydliadau sydd â diddordeb ar y meini prawf dewisol yn ein polisi cludiant o'r cartref i'r ysgol.

Byddwn yn dadansoddi adborth yr ymgynghoriad mewn adroddiad a fydd yn mynd drwy’r broses ddemocrataidd i’w gymeradwyo. Mae’n bosibl y bydd yr adroddiad yn awgrymu diwygiadau i’r polisi cludiant o’r cartref i’r ysgol, a fydd, os cânt eu cytuno, yn dod i rym ym mis Medi 2025.

Tudalen nesaf: Beth sy'n rhaid i awdurdodau lleol ei ddarparu?

Tudalen flaenorol: Amserlen yr ymgynghoriad

end content