Crynodeb o’r digwyddiad:
Ar gyfer dysgwyr Cymraeg y mae’r digwyddiad hwn yn addas, a chaiff ei gynnal ar y cyd â Chyngor Gwynedd. Mae hon yn daith 4 milltir ar darmac a glaswellt hyd at Morfa Madryn gyda rampiau at y cuddfannau.
- Dewch â binocwlars a dillad sy’n dal dŵr
- Mynediad i gadeiriau olwyn
- Dysgwyr a siaradwyr Cymraeg
- Mae croeso i oedolion a phlant hŷn sydd â diddordeb
- Dim cŵn os gwelwch yn dda
- Efallai y byddwn yn ymweld â’r caffi ar y diwedd!
- Bydd y digwyddiad yma’n cael ei gyflwyno yn Gymraeg yn unig
Lleoliad:
- Promenâd Llanfairfechan hyd at Warchodfa Natur Morfa Madryn
- Wrth gaffi’r pafiliwn ar bromenâd Llanfairfechan. LL33 0BY
Dyddiad ac amser:
- Dydd Iau 31 Mai 2018 , 12pm - 2pm Cyrhaeddwch am 11.45am ar gyfer dechrau’n brydlon
Gwybodaeth archebu:
- Mae archebu lle yn hanfodol.
- Ffoniwch 01492 575547
- Sicrhewch eich bod wedi darllen ein telerau ac amodau cyn gwneud eich archeb