Crynodeb o’r digwyddiad:
Dewch â’ch ci i gyfarfod y defaid a mwynhewch y sioe gŵn hwyliog yn Fferm y Parc ar y Gogarth. Gyda gwobrau i’w hennill, cwrs ystwyther, arddangosiadau cneifio, gweithgareddau i’r plant a llawer mwy...
- Mae’r sioe gŵn yn cael ei chynnal yn Fferm y Parc, taith fer ar droed (tua 10 munud) ar draws caeau o Ben y Gwylfryn
- Mae’r tir yn anwastad felly argymhellir esgidiau cerdded neu esgidiau ymarfer a dewch â dillad addas ar gyfer tywydd y Gogarth – pedwar tymor mewn un diwrnod!
- Croeso i oedolion a theuluoedd
- Bydd y digwyddiad yma’n cael ei gyflwyno yn Gymraeg a Saesneg
Lleoliad:
- Fferm y Parc, y Gogarth (Cewch gyrraedd Fferm y Parc ar lwybr troed o'r maes parcio ar Ben y Gwylfryn).
- Mae parcio ar gyfer y digwyddiad ar gael ar y Gogarth (parcio talu ac arddangos). Fel arall, gellir teithio gyda'r tram, car cebl neu gerdded
Dyddiad ac amser:
- Sadwrn 16 Mehefin 2018 11am - 4pm
Gwybodaeth archebu:
Gwybodaeth bellach: