Crynodeb o’r digwyddiad:
Dewch i ymuno â Warden y Parc Gwledig ac aelodau Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, i chwilio am loÿnnod byw (yn cynnwys glesyn serennog unigryw’r Gogarth) a gwahanol fathau o fywyd gwyllt. Dewch i wybod mwy hefyd am hanes a chadwraeth y tir eiconig hwn. Yn dibynnu ar amodau’r tywydd, byddwn yn gweld is-rywogaethau unigryw'r glesyn serennog a’r gwerlöyn llwyd ynghyd â llawer mwy o rywogaethau sy’n byw ar y pentir arfordirol anhygoel hwn.
- Taith gerdded 3 milltir anodd gyda llwybrau anwastad a serth
- Mae’r daith yn cynnwys disgynfa serth tuag at lefel y môr a dringfa serth at Ben y Gogarth
- Mae esgidiau cerdded yn hanfodol yn ogystal â dillad sy’n dal dŵr ac yn gynnes rhag y gwynt, hetiau, eli haul, a digon i yfed, felly byddwch yn barod am unrhyw dywydd!
- Dewch â'ch pecyn bwyd a’ch diodydd eich hun a byddwn yn cael seibiant i ginio mewn man addas
- Mae croeso i oedolion/teuluoedd ond byddwch yn ymwybodol bod y daith gerdded yn un hir, dros dir serth ac anwastad
- Mae croeso i gŵn gydag ymddygiad da ar dennyn
- Bydd y digwyddiad yma’n cael ei gyflwyno yn Saesneg yn unig
Lleoliad:
- Parc Gwledig y Gogarth
- Cyfarfod yn nholldy Penmorfa (GR:SH 768 823)
Dyddiad ac amser:
- Dydd Sul 24 Mehefin 2018 10.30am - 3pm
Gwybodaeth archebu:
- Mae archebu lle yn hanfodol.
- Ffoniwch Mark Sheridan ar 01492 583820
- Sicrhewch eich bod wedi darllen ein telerau ac amodau cyn gwneud eich archeb