Crynodeb o’r digwyddiad:
Mae Vic Hitchings sy’n diddori mewn Gloÿnnod Byw, a Warden y warchodfa, yn eich gwahodd i archwilio a darganfod mwy am y gloÿnnod arbennig sydd i'w gweld yn y warchodfa a pham maent yn ffynnu yma.
Rydym yn edrych ymlaen at eich cyfarfod gyda lluniaeth yn neuadd y pentref am 1pm, ar gyfer cyflwyniadau a sgwrs (yn para tua 40 munud) am loÿnnod byw Mynydd Marian a’i arolwg blynyddol.
- Bydd taith gerdded allan i’r warchodfa i ddilyn
- Byddwn yn anelu i fod yn ôl yn y Maes Parcio erbyn 2.45pm
- Bydd siartiau adnabod ar gael i’w defnyddio yn ystod y digwyddiad
- Bydd y llwybr cerdded yn cynnwys tir serth, garw a chreigiog, mewn mannau, ac weithiau bydd yn ofynnol i ni gerdded mewn un rhes
- Mae angen esgidiau cerdded cadarn ac fe’ch cynghorir i ddod â dillad gwrth-ddŵr
- Anaddas ar gyfer cadeiriau olwyn
- Mae rhai mannau yn unig yn addas ar gyfer cadeiriau gwthio ag olwynion mawr
- Mae'n ddrwg gennym - dim cŵn os gwelwch yn dda
- Bydd y digwyddiad yma’n cael ei gyflwyno yn Saesneg yn unig
Lleoliad:
- Gwarchodfa Natur Leol Mynydd Marian
- Cyfarfod yn:Neuadd y Pentref Llysfaen (ar Ffordd Dolwen) LL29 8SS
- Mae mannau parcio ar gael ym maes parcio Mynydd Marian - o Ffordd y Llan, trowch i'r dde i Ffordd Bron y Llan a throwch i'r dde i mewn i faes parcio'r warchodfa. Mae’r maes parcio 100m o neuadd y pentref (gyferbyn ag eglwys y pentref).
Dyddiad ac amser:
- Dydd Sadwrn 14 Gorffennaf 2018, 1pm - 2.45pm
Gwybodaeth archebu:
- Mae archebu lle yn hanfodol
- Ffoniwch 07733 012842
- Os bydd tywydd eithafol, bydd y digwyddiad yn cael ei ganslo, felly rhowch rif ffôn symudol y gallwn ei ddefnyddio i gysylltu â chi
- Sicrhewch eich bod wedi darllen ein telerau ac amodau cyn gwneud eich archeb