Y mae'r Gogarth, sy'n codi o'r môr ger Llandudno, wedi denu cenedlaethau di-rif o bobl rhwng Oes y Cerrig a heddiw. Pa un a yw eich diddordeb ym maes hanes, gwylio adar a byd natur, neu mewn cerdded neu fwynhau golygfeydd ysblennydd, mae gan y Gogarth rywbeth i'w gynnig i bawb.
Mae'r Gogarth yn 2 filltir o hyd ac yn 1 filltir o led, ac mae'n codi 207 metr (679 o droedfeddi) o'r môr. Y mae daeareg, bywyd gwyllt, archeoleg a thirwedd y Gogarth mor bwysig fel bod llawer o'r penrhyn wedi ei ddynodi'n Ardal Gadwraeth Arbennig, Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ac Arfordir Treftadaeth. Er mwyn sicrhau bod yr holl fuddiannau'n cydfyw'n llwyddiannus, mae'r Gogarth yn cael ei reoli fel Parc Gwledig a Gwarchodfa Natur Leol gan Wasanaeth Cefn Gwlad Conwy.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut mae'r Parc Gwledig a'r Warchodfa Natur Leol yn cael eu rheoli, gweler Cynllun Rheoli'r Gogarth.
Mae'r ganolfan ymwelwyr ar agor o 10am a 5:30pm Pasg - Hydref (tan 5pm ym mis Ebrill a mis Hydref neu mewn tywydd gwael)
Mae rhagor o wybodaeth am y Gogarth a'r holl wasanaethau hyn ar gael gan:
Y Ganolfan Groeso yn Llandudno Ffôn: 01492 577577 Ffacs: 01492 577578
Neu gan Barc Gwledig y Gogarth Ffôn: 01492 874151
Y Côd Cefn Gwlad