Mae cyfoeth mawr o fywyd gwyllt ar y Gogarth. Mae clogwyni'r môr, y tir glas calchfaen, y rhostir a'r coetir yn cynnal amrywiaeth enfawr o flodau gwylltion ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn, llawer ohonynt yn brin ac yn anghyffredin. Mae'r amrediad eang o flodau ar y Gogarth yn darparu bwyd ar gyfer llawer o wahanol rywogaethau o löyn byw, ac yn ystod misoedd yr haf, mae'n aml yn bosibl gweld cymylau o loÿnnod byw (rhywbeth a welir ond yn anaml iawn mewn llawer rhan o wledydd Prydain).
Hefyd yn ystod misoedd yr haf, mae'r clogwyni aruthrol yn gartref i nythfeydd cenhedlu o adar môr megis Gwylogod, Gwylanod Coesddu a Gweilch y Penwaig. Mae Cigfrain a Thylluanod Bach hefyd yn byw ar y rhannau mwy anghysbell o'r clogwyni.
Mae gwybodaeth fanylach am fywyd gwyllt y Gogarth, i'w chael yn y Cynllun Rheoli.
Y Codau Cefn Gwlad
Blodau Gwyllt
Llwybr Natur y Gogarth