Mae geifr y Gogarth yn symbol poblogaidd o Landudno. Er eu bod fel arfer yn byw ar y Gogarth, gellir eu gweld yn aml o amgylch y dref yn ystod y gaeaf a’r gwanwyn. Yn 2020 a 2021, roedd y geifr ar y newyddion rhyngwladol ar ôl iddynt grwydro ymhellach na’r arfer yn sgil yr amodau tawel yn ystod cyfyngiadau Covid.
Os oes gafr yn sâl, yn glwyfedig neu’n sownd ar y Gogarth ar eiddo preifat neu ar dir a reolir gan y Cyngor, cysylltwch â staff y Parc Gwledig.
Os ydych yn gweld gafr sydd angen sylw milfeddyg brys, yn y dref neu ar dir preifat, cysylltwch â’r RSPCA ar 0300 1234 999. Byddwch yn ymwybodol bod yr RSPCA yn elusen gydag adnoddau cyfyngedig iawn ac ni allent ddarparu ymateb ‘gwasanaethau brys’ bob amser.
Perchnogaeth
Yn wreiddiol, cafodd geifr y Gogarth eu rhoi fel anrheg i’r Arglwydd Mostyn gan y Frenhines Fictoria ac maent wedi byw yn wyllt am oddeutu 100 o flynyddoedd.
Er eu bod ar un adeg o dan berchnogaeth yr Arglwydd Mostyn, maent bellach yn cael eu hystyried fel anifeiliaid gwyllt ac nid oes unrhyw un yn gyfrifol amdanynt yn gyfreithiol.
Mae’r Cyngor yn gweithio er lles gorau’r geifr pan maent ar ein tir. Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw ddifrod maent yn ei achosi ac ni allwn gymryd rhan i dynnu geifr o eiddo preifat.
Poblogaeth
Mae nifer o drafodaethau wedi bod dros y blynyddoedd am les a rheolaeth y geifr a’u heffaith ar eiddo gerllaw.
Mae nifer o sefydliadau wedi cymryd diddordeb yn y geifr yn sgil perchnogaeth tir, cadwraeth neu les anifeiliaid; y Cyngor, Ystadau Mostyn Cyf. Cyfoeth Naturiol Cymru a’r RSPCA.
Erbyn 2000, roedd y boblogaeth wedi cynyddu yn ddramatig gyda 220 o eifr yn y ddiadell. Daeth y materion yn fwy acíwt ac roedd yn amlwg bod angen rhyw ffurf o reolaeth.
Yn 2001, penderfynodd y Cyngor leihau maint y ddiadell yn yr hirdymor. Rydym wedi cyflawni hyn drwy:
- Ad-leoli grwpiau o anifeiliaid i sefydliadau a safleoedd cadwraeth yn y DU
- Defnyddio brechlyn atal cenhedlu
Mae’r dull hwn wedi cael ei gefnogi’n eang a chafodd ei ddatblygu mewn partneriaeth ag Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, RSPCA, Cyfoeth Naturiol Cymru a milfeddyg lleol.
Mae cymorth ariannol ar gyfer y rhaglen wedi dod gan:
- Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
- Ystadau Mostyn Cyf
- Cyngor Tref Llandudno
- Cangen RSPCA Aberconwy
- Cyfoeth Naturiol Cymru
Byddwn yn parhau gyda’r dull hwn i gynnal y niferoedd ar lefel rhesymol a hyfyw, yn amodol ar adolygiad gan y Grŵp Cynghori Rheoli Parc Gwledig.
Yng ngwanwyn 2021 cafodd nifer o eifr a oedd wedi crwydro mor bell a Chraig y Don eu symud yn ôl i’r Gogarth oherwydd pryderon am eu diogelwch mor agos at yr A470.
Cafodd 12 gafr eu hailgartrefu gyda phrosiect cadwraeth ym Mryste, symudwyd pedwar bwch gafr i Geunant Avon gyda Chyngor Dinas Bryste a chafodd 13 gafr ac un bwch eu hailgartrefu ar glogwyni Bournemouth mewn partneriaeth â Chyngor Bournemouth, Christchurch a Poole.
Gwanwyn 2022 - Mae 15 o eifr wedi’u hailgartrefu i Bournemouth – teithiodd yr anifeiliaid yn dda ac maen nhw’n ymgartrefu yn eu hamgylchedd newydd. Maen nhw wedi ymuno â gyr o eifr eraill, sy’n pori clogwyni arfordirol ar gyfer gwarchod natur, gan reoli llwyni ymledol er budd blodau gwyllt brodorol.
Roedd cyfrifiad diweddar wedi dangos fod y boblogaeth bresennol oddeutu 150 o eifr.
Lles a Rheolaeth
Fel rheolwr tir, mae gan y Cyngor hawl i weithredu ar ran lles yr anifail os yw anifail gwyllt mewn trallod ar ein tir. Gallwn hefyd weithredu i reoli poblogaethau anifeiliaid gwyllt sy’n preswylio ar ein tir os nad yw’r anifeiliaid hynny wedi’u diogelu dan gyfraith.
Gan fod y geifr yn anifeiliaid gwyllt, nid oes gennym gyfrifoldeb cyfreithiol i gadw’r geifr ar y Gogarth trwy ffensio neu gyfyngu. Os yw’r geifr yn achosi difrod i eiddo, dylai perchnogion yr eiddo gymryd camau i gadw’r geifr allan.
Cynllun Rheoli Geifr Gwyllt Llandudno (PDF, 649KB)