Mae daeareg, bywyd gwyllt, archeoleg a thirwedd y Gogarth mor bwysig fel bod llawer o'r penrhyn wedi ei ddynodi'n Ardal Gadwraeth Arbennig, Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ac Arfordir Treftadaeth. Er mwyn sicrhau bod yr holl fuddiannau'n cydfyw'n llwyddiannus, mae'r Gogarth yn cael ei reoli fel Parc Gwledig a Gwarchodfa Natur Leol gan Wasanaeth Cefn Gwlad Conwy.
Mae'r Cynllun Rheoli yn mynegi'r amcanion cyffredinol ar gyfer rheoli'r Parc Gwledig a'r Warchodfa Natur Leol yn effeithiol.
Cod Cefn Gwlad