Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cynllun Gwella Amddiffynfeydd Arfordirol Bae Cinmel: Dweud eich dweud


Summary (optional)
start content

Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 20 Rhagfyr 2022.

Gweld y cais cynllunio a chyflwyno sylwadau:

 

Ymgynghoriad

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad cyn ymgeisio rhwng 22 Tachwedd a 20 Rhagfyr 2022. Roedd y cynlluniau ar gael i’w gweld ar wefan y Cyngor, yn llyfrgell Bae Cinmel ac mewn digwyddiad galw heibio cyhoeddus ar 8 Rhagfyr 2022 yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Cyngor Tref Tywyn a Bae Cinmel. 

Crynodeb o adborth yr ymgynghoriad

  • Daeth 35 o bobl i’r digwyddiad galw heibio. 
  • Cawsom 15 o ymatebion o'r ffurflen adborth ar ein gwefan, a 13 o ymatebion papur.
  • Cawsom hefyd 18 e-bost gyda sylwadau gan y cyhoedd.
  • Cawsom sylwadau cryf o blaid y gwelliannau arfaethedig i amddiffynfeydd yr arfordir, a fydd yn cael gwared ar bryder parhaus trigolion am lifogydd.  
  • Cafwyd sylwadau am y perygl o lifogydd o afonydd lleol, sy’n gyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru ac sydd ar wahân i’r cynllun hwn.
  • Mynegodd rhai pobl bryderon am uchder y morglawdd arfaethedig a fyddai’n cyfyngu ar olygfeydd, gan gynnwys y golygfeydd o'r parc gwyliau ac i blant ar lwybr yr arfordir.
  • Roedd rhai trigolion yn pryderu y byddai ‘parklets’ neu lochesi yn dod yn ganolbwynt ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol.
  • Roedd sylwadau eraill yn ymwneud ag ecoleg, a’r dymuniad i adael llonydd i dwyni a deunyddiau a phlanhigion lleol.
  • Cafwyd sylwadau cadarnhaol am rampiau hygyrch a chanllawiau ar gyfer mynediad i'r traeth.
  • Codwyd rhai pryderon ynghylch y cymysgedd o feicwyr, cerddwyr a defnyddwyr sgwteri symudedd ar y llwybr a rennir.
  • Roedd adborth hefyd yn cynnwys materion yn ymwneud â gwastraff cŵn, darpariaeth biniau sbwriel ac aflonyddwch i’r ffyrdd yn ystod y gwaith adeiladu.
end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?