Ein cynlluniau ar gyfer dwyrain Bae Cinmel.
Map
Kinmel Bay East
Allwedd
key1
Mynediad hygyrch i’r traeth
key2
Grisiau mynediad i’r traeth
key19
Mynediad ramp i'r traeth
key4
Amddiffyniad morglawdd wedi’i chodi
key6
Hwb traeth Bae Cinmel (ar ddiwedd St Asaph Avenue)
Allwedd - Cyfleusterau Arfaethedig
key8
Man cynnal a chadw beics
key12
Pwyntiau gwefru cerbydau trydan
Amddiffyn yr arfordir
Croestoriad o’r gwrthglawdd creigiau:
Kinmel Bay East Coastal Defence Proposals_Welsh
- Codi a lledu’r gwrthglawdd creigiau presennol ar hyd blaen Dwyrain Bae Cinmel. Bydd y gwrthglawdd creigiau newydd oddeutu 420m o hyd, rhwng Gwarchodfa Natur Horton’s Nose a bwyty Baysville Coffee and Grill.
- Codi’r morglawdd presennol 0.5m (1.6 troedfedd) yn uwch ar hyd blaen Dwyrain Bae Cinmel. Er mwyn lleihau effaith ecolegol y strwythur newydd, byddwn yn adfer y twyni tywod i’r dwyrain o faes parcio Traeth Cinmel (ym mhen draw St Asaph Avenue) yn ôl yr angen.
- Ychwanegu llifddor newydd ar yr un uchder â’r morglawdd ym maes parcio Traeth Cinmel (ym mhen draw St Asaph Avenue)
- Ailbroffilio lefel mynediad y maes parcio fel bod unrhyw lifogydd yn dychwelyd i’r môr yn hytrach na theithio i’r mewndir.
Llun artist o'r cynigion ym maes parcio Traeth Cinmel (ym mhen draw St Asaph Avenue)
Artistic-bird's-eye-view-of-propsoals-at-Kinmel-Beach-car-parkMannau cyhoeddus
- Croesfan newydd ger Caffi Harbwr y Rhyl lle mae llwybr yr arfordir yn croesi ffordd wasanaeth. Bydd hyn yn gwella hygyrchedd a’r gallu i symud yn ddiogel ar hyd y llwybr cerdded a beicio sy’n cysylltu Bae Cinmel a’r Rhyl.
- Creu man gorffwys bach ger bwyty Baysville Coffee and Grill, gan ddarparu lle i eistedd a myfyrio.
- Gwella maes parcio Traeth Cinmel (ym mhen draw St Asaph Avenue):
- 70 o leoedd parcio
- unedau gwefru cerbydau trydan
- goleuadau
- Mae’r ardal ger maes parcio Traeth Cinmel (ym mhen draw St Asaph Avenue) eisoes yn ganolbwynt a phrif bwynt mynediad i’r traeth ar gyfer cymunedau Bae Cinmel a Thowyn. Mae sawl ciosg yn yr ardal hon a byddwn yn gwella’r ardal o’u hamgylch:
- toiledau cyhoeddus newydd a lloches oriel
- lle i barcio beics
- cyfleusterau gwefru beics trydan
- gorsaf cynnal a chadw beics
- byrddau picnic a seddi
- cyfleusterau chwarae
Llun artist o'r cynigion ym maes parcio Traeth Cinmel (ym mhen draw St Asaph Avenue)
Kinmel Beach car park
wg-ccbc
Tudalen nesaf: Dweud eich dweud