Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cynllun Gwella Amddiffynfeydd Arfordirol Bae Cinmel: trosolwg


Summary (optional)
start content

Bydd Cynllun Gwella Amddiffynfeydd Arfordirol Bae Cinmel yn gwella amddiffynfeydd rhag llifogydd ar gyfer eiddo ar hyd yr arfordir.

Dewch i'n sesiwn galw heibio i'r cyhoedd i wybod mwy am y gwaith adeiladu a gofyn cwestiynau, yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Cyngor Tref Towyn a Bae Cinmel, Bae Cinmel, LL18 5BT, ddydd Gwener 13 Medi 2024, o 3pm tan 7pm.

Cwestiynau ac atebion

Beth yw’r broblem?

  • Mae’r arfordir ym Mae Cinmel yn cael ei fygwth gan lifogydd oherwydd newid hinsawdd sy’n arwain at godi lefel y môr ac achosion mwy aml o stormydd mawr. Mewn rhai mannau mae angen cryfhau’r amddiffynfeydd arfordirol presennol a’u gwneud yn uwch.
  • Mae cyflwr yr amddiffynfeydd arfordirol ar hyd y darn hwn o’r arfordir yn amrywio. Nid ydynt wedi cael eu dylunio ar gyfer y codiad a ragwelir yn lefel y môr a’r stormydd mawr y gallwn eu disgwyl yn y dyfodol.

Beth yw’r cynlluniau?

  • Mae’r amddiffynfeydd arfordirol presennol yn Wal Gynnal Towyn, o flaen parc gwyliau Golden Sands, yn cynnwys gwrthglawdd creigiau mawr. Mae’r gwrthglawdd creigiau mewn cyflwr da ond nid yw’n ddigonol i amddiffyn rhag y codiad yn lefel y môr a’r stormydd cynyddol. Mae’r cynlluniau’n cynnwys codi a lledu’r gwrthglawdd creigiau a chodi’r morglawdd.
  • Mae’r amddiffynfa arfordirol ar hyd blaen Gorllewin Bae Cinmel yn cynnwys morglawdd heb unrhyw wrthglawdd creigiau. Ar hyn o bryd mae’r morglawdd gorllewinol yn rhy isel i amddiffyn yr arfordir yn ddigonol rhag llifogydd, felly mae’r cynlluniau’n cynnwys codi’r morglawdd er mwyn amddiffyn yr arfordir yn well.
  • Mae gan Ddwyrain Bae Cinmel forglawdd ar hyn o bryd gyda gwrthglawdd creigiau. Bydd y gwrthglawdd creigiau hwn yn cael ei godi a’i ledu, a bydd y morglawdd yn cael ei godi’n uwch.

Pwy sy’n ariannu hyn?

  • Rydym wedi llwyddo i sicrhau cyllid gan Raglen Rheoli Risg Arfordir Llywodraeth Cymru ar gyfer 85% o gostau’r gwaith adeiladu.
  • Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ariannu’r 15% sy’n weddill.

Pryd fydd hyn yn digwydd?

  • Yn dilyn ymgynghoriad yn 2022 a 2023, rhoddwyd caniatâd cynllunio i’r cynllun hwn ym mis Hydref 2023.Rydym ni wedi penodi contractwr a bydd gwaith ar y cynllun hwn yn dechrau fis Medi 2024.
  • Bydd y contractwr yn gweithio o’r gorllewin yn fras (wrth ymyl Parc Gwyliau Golden Sands) ac yna i’r dwyrain (wrth ymyl Parc Gwyliau Sunnyvale).
  • Disgwyliwn i’r gwaith hwn gael ei gwblhau yn ystod Gwanwyn 2026.

A fydd y traeth ar gau?

  • Bydd, bydd y traeth ar gau i’r cyhoedd er mwyn cwblhau’r gwaith hwn yn ddiogel. Unwaith y byddwn wedi cwblhau adrannau o’r gwaith, byddwn yn ailagor y pwyntiau mynediad i’r traeth yn raddol.

A fydd llwybr yr arfordir ar gau?

  • Na fydd, ond rydym yn disgwyl rhywfaint o amhariad i lwybr yr arfordir. Mae Jones Bros yn adolygu dulliau i gadw’r llwybr hwn ar agor cyn belled ag y bo modd. Bydd dargyfeiriadau ar waith yn ystod cyfnod y gwaith, ond byddwn yn ceisio sicrhau cyn lleied o’r rhain â phosibl.

A fydd y maes parcio ar gau?

  • Bydd, bydd yr ardal gompownd ar gyfer y gwaith yn defnyddio’r maes parcio presennol ar y promenâd. 

A fydd hyn yn effeithio ar deithio?

  • Ymdrechwn i achosi cyn lleied o ymyrraeth â phosibl. Ar ôl hyn, bydd danfoniadau i’r safle gan gerbydau HGV a fydd yn cael eu trefnu yn ystod oriau gwaith.

Beth yw’r oriau gwaith?

  • Yr oriau gweithio arferol fydd 7am tan 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Bydd rhai agweddau ar y gwaith yn ddibynnol ar y llanw, felly bydd rhywfaint o sifftiau cynnar a sifftiau hwyr.
  • Bydd y sifftiau cynnar yn dechrau o 5am tan 6pm a’r sifftiau hwyr yn parhau tan 10pm.

A fyddwch yn gweithio yn ystod gwyliau’r haf?

  • Bydd danfoniadau creigiau amddiffyn yn cael eu gohirio dros wyliau’r haf. Cynlluniwyd y gwaith hwn gan geisio sicrhau cyn lleied o amhariad â phosibl yn ystod gwyliau ysgol.

Sut fedra i gael mwy o wybodaeth?

  • Dewch i'n sesiwn galw heibio i'r cyhoedd i wybod mwy am y gwaith adeiladu a gofyn cwestiynau:
    • Lleoliad: Canolfan Adnoddau Cymunedol Cyngor Tref Towyn a Bae Cinmel, Bae Cinmel, LL18 5BT
    • Dyddiad: Dydd Gwener 13 Medi 2024, 3pm tan 7pm


wg-ccbc

Tudalen nesaf: Gwelliannau i fannau cyhoeddus

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?