Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cynllun Gwella Amddiffynfeydd Arfordirol Bae Cinmel: gwelliannau i fannau cyhoeddus


Summary (optional)
start content

Mae dwy elfen ynghlwm wrth y cynlluniau ar gyfer mannau cyhoeddus yng Nghynllun Gwella Amddiffynfeydd Arfordirol Bae Cinmel, gwella mynediad lle bo hynny’n bosibl, a gwella dwy ardal gyhoeddus allweddol i greu parciau bach.

Gwella mynediad lle bo hynny’n bosibl

Rydym wedi cynnwys seddi wrth bwyntiau mynediad i’r traeth, er mwyn galluogi ymwelwyr a thrigolion i fwynhau’r golygfeydd panoramig o’r môr.

Bydd y pwyntiau mynediad i’r traeth yn cael eu hintegreiddio yn y morglawdd fel nad ydynt yn effeithio ar led llwybr yr arfordir:

  • Creu un pwynt mynediad newydd gyda grisiau a gyda seddi yn wynebu’r môr (ger bwyty Baysville Coffee and Grill)
  • Creu un mynediad gyda ramp i’r traeth (ger Parc Carafanau Sunnyvale)
  • Gwella dau bwynt mynediad fel eu bod yn cynnwys rampiau cwbl hygyrch (ger Gwarchodfa Natur Bae Cinmel a chymuned Sandy Cove)
  • Gwella dau bwynt mynediad gyda grisiau gyda seddi yn wynebu’r môr (ger Gwarchodfa Natur Tywod Cinmel a chymuned Sandy Cove)
  • Gwella un pwynt mynediad gyda grisiau i lawr i’r wal gynnal wedi’i gwella (ger parc gwyliau Golden Sands)

Parciau bach

  • Gwella dwy ardal gyhoeddus allweddol i greu parciau bach, sydd fel arfer yn cynnwys seddi, darpariaethau chwarae anffurfiol a gwelliannau ecolegol. 


wg-ccbc

Tudalen nesaf: Ecoleg

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?