Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cynllun Gwella Amddiffynfeydd Arfordirol Bae Cinmel: ecoleg


Summary (optional)
start content

Mae arfordir Bae Cinmel yn bwysig i nifer o gynefinoedd a rhywogaethau arfordirol.

Mae traethellau tywod a llaid a dŵr agored oddi wrth y lan yn darparu cynefinoedd i rywogaethau adar a physgod sydd o bwys rhyngwladol. Mae mamaliaid y môr (gan gynnwys morloi, llamhidyddion a dolffiniaid) yn dod i chwilota am fwyd yn y dŵr agored o flaen y bae.

Ein cynlluniau

Rydym yn bwriadu gwneud amryw o welliannau ecolegol i gyd-fynd â’r amddiffynfeydd arfordirol newydd, yn enwedig yn y parth rhwng llanw a thrai. Mae’r rhain yn canolbwyntio ar:

  • greu cynefin creigiog ar y lan wedi’i integreiddio i amddiffynfeydd arfordirol
  • creu a gwella glaswelltir blodau gwyllt a phrysgwydd yn rhan o'r dyluniad tirlunio


wg-ccbc

Tudalen nesaf: Cynlluniau gorllewin Bae Cinmel a Wal Gynnal Towyn

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?