Taith ysgafn o Tal-y-Cafn ar hyd Afon Conwy ac heibio Eglwys Santes Fair a Gaer Rhufeinig Kanovium i bentrefi Pontwgan a Tyn-y-Groes. Golygfeydd trawiadol o Eryri a Dyffryn Conwy.
Sut Fath o Daith yw Hi?
- Math o Dir: Hawdd i'w gerdded, rhai dringfeydd hawdd.
- Pellter: Tua 3 milltir. 4 ½ yn cynnwys y daith estynedig.
- Amser: Dwy awr (tair gan gynnwys y daith estynedig).
- Llwybrau: Llwybrau trwy gaeau, traciau a ffyrdd B. 11 camfa, 2 giât. Gan gynnwys y daith estynedig, 12 camfa a 7 giât.
- Cŵn: Cadwch eich ci dan reolaeth dynn.
- Cyfeirnod grid Dechrau a Gorffen: SH 788717. Tal-y-Cafn. Map: Explorer OL17.
Cymerwch Ofal!
- Cadwch ar yr ochr dde mewn llinell sengl pan yn cerdded ar hyd ffyrdd.
- Mae esgidiau addas yn hanfodol ar gyfer cerdded drwy gydol y flwyddyn.
Sut ydw i'n Mynd Yno?
- Efo trên: Mae yna arhosfan ar gais yn Nhal-y-Cafn ar reilffordd Dyffryn Conwy.Ffôn: 0845 7484950 Gwefan: www.nationalrail.co.uk
- Efo bws: Ffôn: Traveline Cymru 0871 200 22 33 www.travelinecymru.info
- Efo car: Dilynwch yr A470 i Tal-y-Cafn. Trowch ar yr B5279 er mwyn cael parcio.
Mapiau:
Y Côd Cefn Gwlad