Hon yw'r daith gyntaf mewn cyfres o deithiau cerdded o Lanrwst. Cynhyrchwyd y daflen mewn partneriaeth rhwng Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Tref Llanrwst, Trailblazers Llanrwst a Menter Nant Conwy.
Mae'r daith gylchol hon yn eich tywys trwy goetir ar hyd lôn werdd i chi fwynhau golygfeydd ysblennydd o fynyddoedd y Carneddau a Dyffryn Conwy. Yn ystod y gwanwyn a'r haf cofiwch am flodau gwyllt fel clychau'r gog, blodau'r meirch a garlleg gwyllt. Mae glöyn byw brith y coed a'r dylluan fach hefyd wedi'u gweld ar y daith gerdded.
- Dechrau'r Daith: Ffordd Cae'r Melwr, cyfeirnod grid SH 808 609
- Tir: esgyniad a disgyniad hawdd/cymedrol
- Pellter: tua 5.5 km, 3.5 milltir
- Amser: tua 2 awr
- Llwybrau: palmentydd, lonydd gwyrdd, traciau a lonydd
- Cŵn: dylai cŵn fod dan reolaeth dynn
- Map: Explorer OL17 Lluniaeth: ar gael mewn siopau a thafarnau lleol
Byddwch yn ofalus!
- Wrth gerdded ar y ffordd, cerddwch ar yr ochr dde mewn un llinell.
- Mae esgidiau a dillad addas yn hanfodol ar gyfer cerdded gydol y flwyddyn.
Gweler isod am gopi PDF o lwybr y daith gerdded / taflen. Mae nifer o gyhoeddiadau ar gael i'w prynu. Ewch i'n tudalen Cyhoeddiadau Cefn Gwlad am fwy o wybodaeth.
Y Côd Cefn Gwlad