Hon yw'r ail daith mewn cyfres o deithiau cerdded o Lanrwst. Cynhyrchwyd y daflen mewn partneriaeth rhwng Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Tref Llanrwst, Trailblazers Llanrwst a Menter Nant Conwy.
Mae'r daith gerdded gylchol hon yn mynd â chi o dref farchnad Llanrwst drwy 'Coed y Felin' (safle sy'n cael ei reoli gan Wasanaeth Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy Conwy) coetir hynafol ar lannau nant gyda hen felin arni. Mae'r safle ar ei orau yn y gwanwyn pan mae'r ddaear wedi'i orchuddio gan flodau coetir. Mae'r daith gerdded yn mynd a chi ar hyd lonydd i bentref Llanddoged ac yna llwybrau ar draws tir fferm gyda golygfeydd godidog o Eryri a Dyffryn Conwy.
- Dechrau'r Daith: maes parcio Glasdir, cyfeirnod grid SH797 617
- Tir: llawer o ddringo a disgyn, rhai llwybrau serth, cul trwy goetiroedd gyda thir anwastad a stepiau
- Amser: tua 3 awr, Pellter: tua 8 cilomedr, 5 milltir
- Llwybrau: palmentydd, ffyrdd cul, llwybrau troed
- Cŵn: dylai cŵn fod dan reolaeth dynn
- Map: Rydym yn awgrymu eich bod yn mynd a map Explorer OL17 gyda chi, Lluniaeth: ar gael mewn caffis, tafarnau a siopau lleol yn Llanrwst
Byddwch yn ofalus!
- Mae esgidiau a dillad addas yn hanfodol ar gyfer cerdded gydol y flwyddyn.
Mapiau: