Mae’r gylchdaith 2 ½ milltir (4 km) yn mynd â chi o amgylch Llyn Crafnant yng ngodidowgrwydd Parc Cenedlaethol Eryri uwchlaw pentref Trefriw yn Nyffryn Conwy.
Er bod rhai rhannau o’r llwybr yn dal yn arw, mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi gwneud gwelliannau i’r llwybr yn 2013 sy’n golygu bod modd i chi bellach fynd â phramiau ar hyd y llwybr. Cafwyd y rhan fwyaf o’r arian ar gyfer y gwelliannau drwy Gynllun Gwella Hawliau Tramwy Llywodraeth Cymru sy’n cael ei weinyddu gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru (Cyfoeth Naturiol Cymru erbyn hyn).
I gerdded y llwybr hwn, cychwynnwch o’r maes parcio sydd ym mhen gogleddol y llyn, cyfeirnod grid SH756618 (mae yma hefyd doiledau). Dilynwch y llwybr o amgylch y llyn mewn cyfeiriad gwrthglocwedd – mae’n hawdd ei ddilyn ac mae yna arwyddion yn dangos y ffordd. Wrth i chi ddychwelyd yn ôl mae’r llwybr yn ymuno â lôn fechan lle mae yna gaffi yn darparu lluniaeth (ar agor yn ystod yr haf yn unig).
Y Côd Cefn Gwlad
Map: